Fel y sefydliad arweinyddiaeth proffesiynol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ein gweledigaeth yw sicrhau lles plant ac oedolion mewn angen, a’u bod yn cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt drwy gael mynediad at y gofal a’r cymorth cywir ar yr adeg gywir yn eu cymunedau, ac ein bod yn sicrhau bod plant ac oedolion sy’n fregus yn cael eu diogelu.

Rydym yn credu mewn gweithio mewn partneriaeth â’r sector gofal cymdeithasol ac iechyd ehangach i wella gwasanaethau, wrth gynnal yr ymreolaeth leol, meithrin ymagwedd hyblyg ac amrywiaeth o ran dewis, sy’n cefnogi pobl i gael llais a rheolaeth wirioneddol o ran y gwasanaethau y maent eu heisiau a sut y maent am eu derbyn. Rydym yn cydnabod yn ein blaenoriaethau, yr angen i barhau i ail-gydbwyso’r sector i sicrhau y darperir dewis i blant ac oedolion.

Mae ein haelodau yn adnabod y bobl y maent yn eu gwasanaethu yn fwy o lawer nag unrhyw ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus arall; ac maent yn deall pwysigrwydd cynhenid gofal cymdeithasol ar draws pob oedran ac ym mhob rhan o'u cymuned. Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau, o ran darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel yn y blynyddoedd i ddod. Er bod yr heriau hyn wedi cynyddu’n sylweddol gan effaith pandemig Covid-19, roedd angen trawsnewid systemig ers tro, nid yn unig i fodloni dyheadau newidiol y cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau gofal ond hefyd i gyflawni ymrwymiadau hirdymor y llywodraeth i newid yn yr hinsawdd.

Felly, rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni, yn fwy nag erioed, ddatblygu a mabwysiadu dulliau arloesol ac ystwyth o gomisiynu a darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Rhaid i’r modelau a’r dulliau newydd hyn fod yn seiliedig ar ymchwil o ansawdd uchel a sylfaen dystiolaeth gadarn i’n galluogi i symud y tu hwnt i adferiad y sector yn unig, ond ymateb yn wirioneddol i anghenion newidiol unigolion, teuluoedd, a chymunedau ledled Cymru, yn awr, ac yn y dyfodol

Credwn fod llais ADSS Cymru ar y cyd yn hollbwysig i sicrhau bod yr anghenion hyn yn parhau i fod wrth wraidd y gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd di-dor a ragwelir gan Gymru Iachach yn ogystal â sicrhau bod pob asiantaeth yn cael ei dwyn i gyfrif am eu dyletswyddau i ddarparu gofal a chymorth, ac y gellir gwireddu cyfleoedd i wella canlyniadau yn llawn.

Trwy ein profiad ar y cyd fel arweinwyr ac ymarferwyr proffesiynol, ynghyd â’r dystiolaeth a gasglwyd gan ein sefydliad a’n partneriaid, rydym wedi nodi pedwar maes blaenoriaeth y byddwn yn canolbwyntio arnynt dros y tair blynedd nesaf, gan weithio i hyrwyddo ac ymgorffori’r gwerthoedd sy’n sail i’r blaenoriaethau hyn, ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Gan gydnabod bod y darlun gofal cymdeithasol yn newid yn barhaus, rydym wedi nodi’r gweithgareddau eang y byddwn yn ymgymryd â nhw yn ystod y 12 mis nesaf. Byddwn yn datblygu cynlluniau gweithredu penodol ar sail y gweithgareddau hynny ac yna'n adolygu ein sefyllfa ac yn ystyried gweithgareddau yn y dyfodol yn unol â'n blaenoriaethau , a hynny’n seiliedig ar y darlun adfer sy'n dod i'r amlwg.

Darllen yr adroddiad llawn 

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 17/02/2022