**CADWCH Y DYDDIAD**

Dydd Iau 19 Tachwedd, 15:00 - Dydd Gwener 20 Tachwedd, 14:00

Mae gennym bleser i gyhoeddi y bydd Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru yn digwydd ar-lein eleni.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar gydnabod ymdrechion rhagorol gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal sydd wedi parhau i ddarparu gofal a chymorth hanfodol trwy gydol y pandemig covid; ac yn edrych ymlaen at ail-sefydlogi'r sector, bwrw ymlaen ag arferion newydd positif a chydweithio i adeiladu gwasanaethau gofal sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Ewch i'n gwefan cynhadledd annibynnol i gael mwy o fanylion am y rhaglen.

Bydd manylion ar sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad yn cael eu postio yn fuan.

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 29/09/2020