LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

ADSS Cymru

Mae bellach yn bosibl i gofrestru ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol Digidol 2020, 19-20 Tachwedd

Mae ADSS Cymru yn llawn cyffro i gyhoeddi bod modd i bob gweithiwr proffesiynol yng Nghymru gadw lle ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol ar-lein eleni.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar gydnabod ymdrechion rhyfeddol gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal sydd wedi parhau i ddarparu gofal a chymorth hanfodol yn ystod y pandemig COVID-19, ac ar edrych ymlaen at ail-sefydlogi’r sector, gan fwrw ymlaen ag arferion newydd cadarnhaol a chydweithio er mwyn creu gwasanaethau gofal

sy'n addas ar gyfer y dyfodol.Am y tro cyntaf erioed, mae mynychu’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ac ar agor i bob darparwr gofal mewn cydnabyddiaeth o’r cyfraniad a wnaed gan bob aelod o staff ar draws y sector eleni.

Am ragor o wybodaeth ac er mwyn cadw lle, ewch i:

https://nscc.cymru/cy/cofrestru/

 

Llywodraeth Cymru

Cam £300 miliwn o’r Gronfa Cadernid Economaidd ar agor i ymgeiswyr

Gall fusnesau bellach wneud cais am gyllid o drydydd cam Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Cyswllt 'i datganiad

 

Cynllun Cenedlaethol i Ofalwyr

Rydym bellach wedi lansio ein dogfen ymgynghori gyhoeddus ar gyfer datblygu ein Cynllun Cenedlaethol i Ofalwyr newydd. Rydym am dderbyn adborth gan amrywiaeth eang o leisiau a phrofiadau, er mwyn llywio ein cynllun. Y dyddiad cau yw 20 Ionawr 2021.

https://llyw.cymru/cynllun-cenedlaethol
-i-ofalwyr

Y Gronfa Gymorth i Ofalwyr

Rydym wedi cyhoeddi Cronfa Gymorth i Ofalwyr gwerth £1 miliwn er mwyn helpu gofalwyr di-dâl Cymru i ymdopi â’r pwysau ariannol sy’n gysylltiedig â COVID-19. Bydd yn galluogi gofalwyr sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol i brynu eitemau hanfodol, gan gynnwys bwyd, dodrefn a nwyddau gwyn. Bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ar gael tan 31 Mawrth 2021 a bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar sut i wneud cais.

https://carers.org/around-the-uk-our-
work-in-wales/our-work-in-wales-welsh

 

Canllawiau ar ddiogelu pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws (COVID-19) – y cynllun ‘gwarchod’ gynt

Canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y COVID-19

https://llyw.cymru/canllawiau-
ar-ddiogelu-pobl-ddiffinnir-ar-sail-
feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored
-i-niwed-yn

Crynodeb o'r cyfyngiadau ar ymgynnull yn gymdeithasol a theithio, cau busnesau a phresenoldeb yn yr ysgol ac addysg bellach: asesiad effaith integredig

Crynodeb o effeithiau cyfyngiadau coronafeirws.

https://llyw.cymru/crynodeb-or-cyfyngiadau
-ar-ymgynnull-yn-gymdeithasol-
theithio-cau-busnesau-phresenoldeb-yn-yr-ysgol

Canllawiau ar weithio yng nghartrefi pobl eraill

Mae’r ddogfen hon i helpu cyflogwyr, cyflogeion a’r hunan-gyflogedig ac eraill (megis gwirfoddolwyr) sy’n gweithio yn neu ger gartrefi pobl (pan nad yw’r gwaith yn golygu cysylltiad corfforol agos) i ddeall sut i weithio’n ddiogel, gan gymryd camau i leihau y perygl o ddod i gysylltiad â COVID-19.

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-weithio
-yng-nghartrefi-pobl-eraill-0

Cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd

Canllawiau o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

https://llyw.cymru/cymryd-pob-mesur
-rhesymol-i-leihaur-risg-o-ddod-i-
gysylltiad-ar-coronafeirws-mewn-
gweithleoedd

Y Gell Cyngor Technegol: crynodeb o'r cyngor 16 Hydref 2020

Crynodeb o'r cyngor COVID-19 ddarparwyd i Weinidogion Cymru ar 16 Hydref 2020.

https://llyw.cymru/y-gell-cyngor-technegol
-crynodeb-or-cyngor-16-hydref-2020

Y Grŵp Cyngor Technegol: datganiad consensws ar achosion-defnydd ar gyfer profion lleol i gleifion a phwynt gofal ar gyfer RNA feirysol neu antigenau canfod SARS-CoV2

Mae datblygiadau technolegol yn golygu y bydd nifer o blatfformau newydd cyn hir i ganfod un ai RNA feirysol neu antigenau a ellid eu defnyddio fel Profion Lleol i Gleifion neu Brofion Pwynt Gofal.

https://llyw.cymru/y-grwp-cyngor-
technegol-datganiad-consensws-ar
-achosion-defnydd-ar-gyfer-profion
-lleol-i-gleifion

“Wirfoddolwyr, mae ar eich cymunedau eich angen chi arnon ni nawr fwy nag erioed” meddai Gweinidog Llywodraeth Cymru

Wrth i Gymru symud tuag at gyfnod atal byr ar y feirws y penwythnos hwn, galwodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, ar gymunedau i ddod ynghyd mewn ffordd ddiogel i gefnogi’r rheini sydd fwyaf agored i niwed.

https://llyw.cymru/wirfoddolwyr-mae
-ar-eich-cymunedau-eich-angen-chi
-arnon-ni-nawr-fwy-nag-erioed-
meddai-gweinidog

Cynhadledd Genedlaethol Gwerth Gofal

Cynhadledd Genedlaethol Gwerth Gofal Cymru 2020

 

17 a 18 Tachwedd 2020

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys lansiad Fframwaith Mesur Gwerth Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru, y mae’r ffurf fer arnynt yw ‘TOMs’ (themâu, canlyniadau a mesurau yn Saesneg).

Mae'r themâu, canlyniadau a mesurau cenedlaethol ar gyfer Cymru wedi'u datblygu fel datrysiad traws-sector er mwyn helpu sefydliadau i fesur a rheoli gwerth cymdeithasol a sicrhau’r mwyaf posibl ohono.

Mae'r themâu, canlyniadau a mesurau cenedlaethol ar gyfer Cymru yn dwyn Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a'r Pecyn Cymorth Budd i’r Gymuned ynghyd mewn fframwaith adrodd sengl a byddant yn caniatáu sefydliadau i adrodd eu cyfraniad cymdeithasol i gymdeithas o ran y buddion maent yn eu rhoi, yn ogystal â chyfanswm y gwerth maent yn ei greu, mewn ffordd gyson a chadarn.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnig gweithdai, gan gynnwys:

Defnyddio'r themâu, canlyniadau a mesurau cenedlaethol i Gymru a’u haddasu i'ch gofynion

Meddygfa BBaCh i gomisiynwyr (prynwyr)

Sut i gyflwyno cais gan ddefnyddio'r themâu, canlyniadau a mesurau cenedlaethol

https://gateway.on24
.com/wcc/eh/2625580/the
-national-social-value-
conference-2020-wales?partnerref=LK

 

LinkedIn: https://www.linkedin.com/
feed/update/urn:li:activity
:6724665547319058432

 

Twitter:https://twitter.com/
socialvalueport/status/
1318900656154042370?s=20

 

 

 

Busnes Cymru

Cymorth i fusnesau gan Fusnes Cymru yn ystod y cyfnod atal byr o gyfyngiadau symud

Yn dilyn cyhoeddiad gan y Prif Weinidog am gyfnod atal byr, mae'r Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei chynyddu i bron £300 miliwn, sy'n cynnwys £150 miliwn ychwanegol i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y cyfnod atal.

Am ragor o wybodaeth am yr ystod eang o gymorth sydd ar gael iddynt i oroesi’r cyfnod anodd hwn, ewch i dudalennau COVID-19: Cymorth i Fusnesau a grëwyd gan Fusnes Cymru.

https://businesswales.gov.wales/
coronavirus-advice/cy

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Cefnogi eich iechyd a llesiant

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu adnodd i gefnogi iechyd a lles gweithwyr gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae'r adnodd hwn yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd gyda gwybodaeth a chefnogaeth ddefnyddiol.

https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/adnoddau-gefnogi-eich-
iechyd-a-llesiant-yn-ystod-y-pandemig
-coronafeirws-covid-19

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 28/10/2020