Fel rhan o waith paratoi ar gyfer Brexit mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Ipsos MORI i wneud ymchwil er mwyn deall mwy am y staff sy'n gweithio yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant. Ei ddiben yw ystyried:

  • cyfraniad presennol staff yr UE nad ydynt yn rhan o'r DU
  • lefel y cymwysterau ar draws y sector
  • yr heriau recriwtio
  • yn ogystal â  materion niferus eraill sy'n effeithio ar y sectorau hyn yng Nghymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Coleg Brenhinol y Nyrsys ac UKHOMECARE wedi bod yn ymwneud â’r gwaith paratoi’r ymchwil a’r arolwg ac hefyd  mae’r gwaith yn cael cefnogaeth  gan ADSSCymru a CLlLC.

Er mwyn sicrhau bod Ipsos MORI yn gallu cael gafael ar ddata dibynadwy, mae angen cymaint o ddarparwyr â phosibl i gymryd rhan yn yr arolwg.

Dylai bod darparwr yn y sectorau hyn  fod wedi derbyn unai  e-bost neu lythyr drwy’r post gyda chod unigryw i gysylltu  i'r arolwg arno. Mae hwn yn gyswllt unigryw ar gyfer pob darparwr fel y gall Ipsos MORI fonitro cyfraddau ymateb yn gywir.  Gall hefyd  wirio bod cwotâu ar gyfer gwahanol fathau o leoliadau yn cael eu bodloni. Mae cyfweliadau ffôn hefyd yn cael eu cynnal i gynyddu'r gyfradd ymateb.

Hoffwn eich annog i gwbwlhau’r arolwg. Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod hwn yn arolwg awdurdodedig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. 

Os ydych  fel darparwr wedi colli eich cod unigryw, neu os oes ganddoch  unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â'r tîm ymchwil yn Ipsos MORI drwy e-bost: WalesSCCCsurvey@ipsos.com neu ffonio: 0808 238 5376.

 

Dyddiad cau'r arolwg yw: Dydd Mercher 16 Ionawr 2019

 

Neges gan Ipsos MORI:

"Mae Ipsos MORI, cwmni ymchwil annibynnol, wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil ar staffio yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, gan gynnwys cyfraniad gweithwyr yr UE. Mae hwn yn waith ymchwil pwysig – bydd yn helpu Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i ddeall yr heriau sy'n eich wynebu a datblygu ymatebion i gefnogi'r sectorau. Mae Ipsos MORI yn cysylltu â gwasanaethau a restrir yng nghronfa ddata Arolygiaeth Gofal Cymru o ddarparwyr ac yn eu gwahodd i gymryd rhan naill ai ar-lein neu dros y ffôn. Bydd ond yn cymryd 5-10 munud o'ch amser, ac mae'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn clywed gan gynifer o wasanaethau â phosibl er mwyn deall yr heriau posibl y mae gwasanaethau'n eu hwynebu ac i ddatblygu ymatebion i helpu i gefnogi'r sector, felly cofiwch gymryd amser i ymateb.

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 11/01/2019