LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

Arolygaeth Gofal Cymru

Adolygiad cenedlaethol o gartrefi gofal i bobl sy'n byw gyda dementia

Ystyriodd adolygiad AGC y gofal a gafodd pobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal yng Nghymru a sut y cawsant eu cefnogi yn ystod y cyfnod pwysig hwn yn eu bywydau.

Dolen i'r adolygiad

Adolygiad cenedlaethol o atal a hyrwyddo annibyniaeth i oedolion hŷn

Edrychodd adolygiad AGC ar y cynnydd a wnaed gan wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a byrddau iechyd er mwyn helpu oedolion hŷn i fod mor annibynnol â phosibl, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Dolen i'r adolygiad

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Dweud eich dweud am yr hyn rydyn ni’n meddwl yw’r blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf

 

Rydym yn cydnabod bod angen i ofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar fod yn wahanol iawn er mwyn ymateb i newidiadau demograffig, economaidd ac anghenion cymdeithasol ymhen pum mlynedd. Credwn fod hynny’n golygu bod angen i ni, fel sefydliad, fod yn wahanol iawn hefyd.

 

Rydyn ni am glywed eich adborth gonest am ein blaenoriaethau arfaethedig, fel y gallwn fod yn hyderus y bydd ein cynllun pum mlynedd yn diwallu anghenion newidiol y sectorau a chefnogi’r gweithlu, cyflogwyr ac arweinwyr yn y misoedd a blynyddoedd i ddod.

https://gofalcymdeithasol.cymru/
straeon-newyddion/dweud-eich
-dweud-am-yr-hyn-rydyn-nin-
meddwl-ywr-blaenoriaethau-ar-
gyfer-y-pum-mlynedd-nesaf

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl

hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

https://www.gofalwn.cymru/

 

 

 

Academi Wales: Adeiladu Perthnasoedd Effeithiol

 

Digwyddiad ar lein 1 awr, 13 Hydref 2020 am 10:00 tan 11:00

Bydd y sesiwn ar-lein hon fydd yn para am awr yn canolbwyntio ar fapio eich perthynas bresennol gartref ac yn y gwaith, edrych ar yr hyn sy'n gweithio a beth y gellid ei wneud i wneud gwelliannau o ran meithrin eich perthnasoedd, yn enwedig yng nghyd-destun Pandemig Covid-19 a'n hangen i gyfathrebu mewn ffyrdd heblaw wyneb yn wyneb.

Mae hon yn rhaglen gyfannol sy'n canolbwyntio ar fod o fudd i bob agwedd ar eich bywyd yn hytrach na gwahanu’r gwaith a’r cartref.

Manteision i chi

Byddwch yn gallu:

· creu map o'ch perthnasoedd presennol (cewch gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn cyn y sesiwn)

· nodi pa rai o'r 5 gwerth allweddol sy'n bresennol ym mhob perthynas

· archwilio sut y gellid gwella perthnasoedd

· datblygu perthynas fwy cadarnhaol gan ddefnyddio nifer o dechnegau profedig

Cynulleidfa darged

Agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru.

Dolen i'r gwybodaeth

 

Cymorth Cymru

 

Mae Arwyr Gofal Cymdeithasol yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i'r gweithlu Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae Cymorth Cymru wedi bod yn cynnal yr ymgyrch trwy gydol yr haf ac yn awr eisiau rhannu â'u cardiau post ymgyrch ddwyieithog newydd sbon wrth i ni nesáu at yr hydref.

Mae Cymorth Cymru yn gofyn am gefnogaeth i'r ymgyrch ac yn eich gwahodd i ymuno â nhw i godi staff o'r sector ac i ddathlu'r holl waith anhygoel maen nhw'n ei wneud!

 

Mae defnyddio'r cerdyn post yn gyflym ac yn hawdd:

  1. Argraffwch a thorrwch y cerdyn post (ynghlwm wrth yr e-bost hwn) ac ysgrifennwch pam eich bod yn cefnogi staff Gofal Cymdeithasol
  2. Tynnwch lun o'r cerdyn, (beth am gynnwys eich hun, teulu a ffrindiau?)
  3. Llwythwch y llun i'r cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #SocialCareHeroes

 

Dyma enghraifft:

 

Ar ôl i chi dynnu'ch lluniau, llwythwch nhw i'r cyfryngau cymdeithasol gyda #SocialCareHeroes, lle gallwch chi hefyd chwilio am, a rhannu lluniau pobl eraill.

Rhannwch yr e-bost hwn gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr gan y byddai'n wych cael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgyrch, neu eisiau gwybod sut y gallwch chi gymryd rhan ymhellach, cysylltwch â ni.

 

Cerdyn addewid i lawrlwytho

Cyswllt yr ymgyrch: Hefin@cymorth
cymru.org.uk

Llywodraeth Cymru

Cyhoeddi cynllun y gaeaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Heddiw (15 Medi), bu’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn disgrifio’r paratoadau sy’n digwydd yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer ymateb i’r heriau mawr y byddant yn eu hwynebu y gaeaf hwn.

 

https://llyw.cymru/cyhoeddi-
cynllun-y-gaeaf-ar-gyfer-iechyd
-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru

Profi, olrhain, diogelu

Gwybodaeth amlieithog am symptomau’r coronafeirws, profi am y coronafeirws ag olrhain cysylltiadau.

https://llyw.cymru/profi-olrhain
-diogelu-gwybodaeth-amlieithog
-am-y-coronafeirws

Cynllun Yswiriant Bywyd Coronafirws y GIG a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2020

  • Mae'r cynllun yn ymdrin â marwolaethau gweithwyr sy'n gysylltiedig â choronafirws mewn rolau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Mae'n darparu £60,000 i fuddiolwyr
  • Gall cyflogwyr gynorthwyo trwy wneud teuluoedd yn ymwybodol o'r cynllun.

(Saesneg yn unig) https://www.nhsb
sa.nhs.uk/coronavirus-life-assurance-2020

Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cwynion Penodedig) (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 arfaethedig

Mae'r ymgynghoriad sy'n ymwneud â'r newidiadau arfaethedig a fydd yn cael eu cyflwyno gan Reoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cwynion Penodedig) (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 wedi'i gyhoeddi. Bydd y Rheoliadau hyn yn arwain at newidiadau i'r Mecanwaith Adolygu Annibynnol (IRM) ar gyfer penderfyniadau cymwys.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd ymatebion i gwestiynau'r ymgynghoriad, a fydd yn helpu i lunio'r broses derfynol a fydd yn disodli'r IRM.

 

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 2ail Tachwedd 2020.

https://llyw.cymru/rheoliadau-
mabwysiadu-maethu-cwynion-penodedig-diwygiadau-dirymiadau-amrywiol-cymru-2020

 

 

Deddfwriaeth y coronafeirws a chanllawiau ar y gyfraith

Pasiwyd y cyfreithiau a'r canllawiau ar y cyfreithiau hyn yng Nghymru mewn ymateb i bandemig coronafeirws.

 

https://llyw.cymru/deddfwriaeth-
y-coronafeirws-chanllawiau-ar-y-gyfraith

 

Mesurau diogelwch yn y gweithle yn hollbwysig i atal lledaeniad y coronafeirws

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi galw ar gyflogwyr a gweithwyr i wneud popeth bosibl i atal lledaeniad y coronafeirws yn y gweithle.

 

https://llyw.cymru/mesurau-diogelwch
-yn-y-gweithle-yn-hollbwysig-i-atal-
lledaeniad-y-coronafeirws

 

Risg o ddod i gysylltiad a Coronafeirws - Gweithle

Canllawiau o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

https://llyw.cymru/cymryd-pob-
mesur-rhesymol-i-leihaur-risg-o-
ddod-i-gysylltiad-ar-coronafeirws-mewn-gweithleoedd

 

Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin

Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.

 

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau

 

Gwirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws

Sut allwch chi helpu pobl agored i niwed regus yn diogel yn ystod pandemig y coronafeirws.

 

https://llyw.cymru/gwirfoddoli-
yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws

Cymru’n arwain y ffordd gan roi codiad cyflog i staff gofal sylfaenol

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething heddiw y bydd yr holl feddygon, nyrsys a staff sy’n gweithio mewn practisau meddygon teulu yn cael codiad cyflog o 2.8%.

 

https://llyw.cymru/cymrun-arwain-
y-ffordd-gan-roi-codiad-cyflog-i-
staff-gofal-sylfaenol

 

Gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd

Bydd yn orfodol i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do yng Nghymru o 14 Medi.

 

https://llyw.cymru/gorchuddion-
wyneb-canllawiau-ir-cyhoedd

Canllawiau ar aelwydydd estynedig: coronafeirws

Rheolau a fydd yn berthnasol i fod mewn aelwydydd estynedig a chyngor ar sut i ffurfio un. Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys terfyn newydd ar y nifer o bobl (6) y caniateir iddynt gwrdd y tu mewn o aelwyd estynedig.

 

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-aelwydydd-estynedig-coronafeirws

Cael bwyd a chyflenwadau hanfodol yn ystod pandemig y coronafeirws

Sut allwch chi gael bwyd a chyflenwadau hanfodol os ydych yn gwarchod, hunanynysu neu yn weithiwr hanfodol.

 

https://llyw.cymru/cael-bwyd-chyflenwadau-hanfodol-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws

Gwasanaethau cymdeithasol i blant yn ystod y pandemig COVID-19: canllawiau

Sut y gall darparwyr gofal cymdeithasol i blant newid eu gwasanaethau i gefnogi pobl ifanc yn ystod COVID-19

 

Dolen i'r canllawiau

 

Tenantiaethau Busnes

Ni chaniateir ail-fynediad neu fforffedu am beidio â thalu rhent (ar gyfer tenantiaethau masnachol) yn ystod y cyfnod sydd bellach yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

Dolen i'r gwybodaeth

Y Grŵp Cyngor Technegol: datganiad ar brofi cleifion unwaith neu ddwywaith

Datganiad consensws ar effaith profi cleifion unwaith neu ddwywaith cyn eu rhyddhau o ysbyty i gartref gofal.

 

https://llyw.cymru/y-grwp-cyngor-
technegol-datganiad-ar-brofi-cleifion
-unwaith-neu-ddwywaith

£33m ar gyfer cyfleuster COVID-19 newydd yng Nghaerdydd a’r Fro

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi £33m o gyllid ar gyfer cyfleuster newydd ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i ymdopi ag unrhyw gynnydd posibl mewn achosion o COVID-19 y gaeaf hwn.

 

https://llyw.cymru/ps33m-ar-gyfer-
cyfleuster-covid-19-newydd-yng-
nghaerdydd-ar-fro

Amddiffyn pobl eithriadol o agored i niwed

Canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws (COVID-19)

Dolen i'r canllawiau

 

Cwestiynau cyffredin

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 16/09/2020