LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Dod drwyddi gyda’n gilydd

Hoffem eich gwahodd chi i fod yn rhan o rwydwaith cymorth ar-lein newydd.  Mae’r grŵp cymorth hyn i’r rhai ohonoch sy’n gweithio mewn gofal ac wedi cael profiad o brofedigaeth yn eich gweithle yn ystod y cyfnod yma. Os oes angen ychydig o le i siarad, gallwch gysylltu ag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg mewn lle cyfrinachol.

Bydd y rhwydwaith yn cyfarfod unwaith y mis am awr ar Zoom. Bydd y sesiwnau cyntaf ar 18 a 25 Mawrth.

Os oes angen mwy o wybodaeth neu cadw lle, anfonwch e-bost at asha.hassan@gofalcymdeithasol.cymru neu ymunwch un o’r sesiynau galw heibio lle byddwn rhoi mwy o fanylion. Cliciwch ar y dolen Zoom isod.

Mae hwn yn bartneriaeth rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru, Age Cymru, Ffowm Gofal Cymru a Hosbis y Cymoedd.

9fed Mawrth 5pm-6pm Dolen i ymuno

 

15fed Mawrth 8am – 9am Dolen i ymuno

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Annwyl Rheolwr Cartref Gofal,

Rydym yn falch o lansio Platfform Adnoddau newydd ar gyfer Staff Cartrefi Gofal a Gofal Cartref heddiw, a gynhyrchwyd gennym ni yn Cartref Gofal Cymru

Mae’r platfform adnoddau yn hygyrch trwy fwrdd gwaith neu ffôn, ar ap (Saesneg yn unig) a gwefan (ddwyieithog), ac mae’n ardal i ddod o hyd i ddolenni defnyddiol at bynciau sy’n cynnwys; rheoli heintiau, lles, adnabod preswylwyr sy’n dirywio, COVID-19, hyfforddiant a chysylltiadau defnyddiol. 

A fyddech cystal â rhannu’r neges e-bost hon â chydweithwyr perthnasol er mwyn iddynt gallu cael mynediad i’r ap digidol a’r wefan?

Gellir cael mynediad i’r Platfform Adnoddau trwy:

Ap: lawrlwythwch ap HealthZone UK ac

Os ydych chi’n defnyddio Twitter, Facebook neu LinkedIn, a fyddech cystal ag ail-drydar / rhannu postiadau o’n cyfrifon eraill?

Saesneg:

Twitter @ImprovementCym       

Facebook a LinkedIn: @ImprovementCymru

Cymraeg:

Twitter @GwelliantCymru          

Facebook a LinkedIn: @GwelliantCymru

Neu, gallwch chi anfon trydariad cyflym atom ni am hyn, trwy glicio yma (03.03.21) https://clicktotweet.com/z92NW

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am y platfform adnoddau (03.03.21) https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/gwelliant-cymru/newyddion-a-chyhoeddiadau/newyddion/platfform-adnoddau-newydd-ar-gyfer-staff-cartrefi-gofal/

Bwrdd Comisynu Cenedlaethol

Gweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod Covid-19

 - Astudiaeth Ymchwil gan Prifysgol Greenwich

Mae Prifysgol Greenwich yn cynnal ymchwil sy'n archwilio profiadau gweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod Covid-19. Mae'r tîm ymchwil yn chwilio am weithwyr gofal cartref a gofal preswyl, yn bennaf o'r gymuned Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), i gymryd rhan mewn cyfweliadau a grwpiau ffocws.

Mae mwy o wybodaeth am yr astudiaeth ynghlwm. Bydd cyfweliadau a grwpiau ffocws ar-lein (trwy Zoom) ac ar amser cyfleus i weithwyr. Rhoddir cerdyn rhodd o £25 i bob cyfranogwr i gydnabod ei amser yn y sefyllfa bresennol.

I gymryd rhan naill ai mewn cyfweliad neu grŵp ffocws, e-bostiwch Sian Moore ym Mhrifysgol Greenwich ar

s.moore@greenwich.ac.uk

Helpwch i gylchredeg y wybodaeth / cyfle.

EHRCInformation

Marie Curie / Fforwm Gofal Cymru

 

Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol 23 Ebrill 2021

               

Cynhelir Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol gan Marie Curie a gefnogir gan Fforwm Gofal Cymru. Y nod yw dod at ei gilydd i fyfyrio ar ein colled ar y cyd, cefnogi'r rhai sydd mewn profedigaeth, a gobeithio am ddyfodol gwell.  Ceir amrediad o weithgareddau a rhaglen o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cefnogi gan enwogion (i'w cadarnhau). Mae fideo am y diwrnod ac adnoddau yma: https://www.mariecurie.org.uk/get-involved/day-of-reflection

a phecyn adnoddau arall ar gyfer pobl sydd am ymuno â’r côr rhithwir:  https://www.mariecurie.org.uk/get-involved/day-of-reflection/virtual-choir-resources Nod y diwrnod yw cael cymaint o bobl o'r gymuned ag sy'n bosibl i gymryd rhan.

 

Fframwaith gwirfoddoli mewn prosiect iechyd a gofal cymdeithasol

 

Helplu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)

 

Mae Helplu Cymru CCGG yn arwain ar y prosiect hwn ac yn gweithio gyda Chomisiwn Bevan, Gofal Cymdeithasol Cymru a Richard Newton Consulting Ltd fel partneriaid y prosiect. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru trwy Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws 2020/21.

Yn dilyn y pandemig, hoffem weld gwirfoddoli yn cael ei integreiddio'n well yn y broses o gynllunio gwasanaethau, yn derbyn adnoddau gwell, ac yn cael ei gydnabod yn well fel cyfran hanfodol o ddarpariaeth prif ffrwd iechyd a gofal cymdeithasol. Nod y prosiect yw cyd-gynhyrchu, gyda rhanddeiliaid, adnodd sy'n cefnogi hyn.

Fel rhan o'r prosiect, rydym yn cynnal cyfres o grwpiau ffocws ar themâu gwahanol a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i wraidd yr agweddau allweddol sydd wedi derbyn sylw yn yr ymatebion i’r arolwg ac yn y grwpiau ffocws rhanbarthol – ac un ohonynt yw gwirfoddoli mewn gofal cymdeithasol.

Rydym am wahodd cymysgedd o ddarparwyr o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gyda dosbarthiad daearyddol ledled Cymru ac ar draws holl swyddogaethau gwaith cymdeithasol.

Mae gennym nifer o ddarparwyr cenedlaethol i'w gwahodd ond rydym am wahodd darparwyr sydd wedi'u lleoli'n rhanbarthol. Os ydych yn teimlo bod hyn yn rhywbeth y gallech chi ei gefnogi neu roi cymorth iddo, cysylltwch â Dorothy Haines, Rheolwr Swyddfa yn Richard Newton Consulting (manylion isod).

Dorothy Haines

Rheolwr Swyddfa

Richards Newton Consulting

dorothyh@richard-newton.co.uk

02920 397341

Richard-newton.co.uk

 

Hawlia dy arian

Yn ôl ymchwil ddiweddar, rydym yn gwybod bod miloedd o bobl yng Nghymru nad ydyn nhw'n hawlio'r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch gyfathrebu integredig i annog pobl i wirio a hawlio'r budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl iddynt. Bydd yr ymgyrch yn targedu teuluoedd incwm isel ledled Cymru, yn ogystal â chynulleidfa ehangach o bobl y gallai fod angen cymorth arnyn nhw yn awr oherwydd effeithiau ariannol y pandemig.

Helpwch ni i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch trwy rannu gyda'ch cydweithwyr a'ch rhwydweithiau.

Yn ogystal ag ymweld a’r gwefan, gall ymwelwyr hefyd ffonio llinell gymorth Advicelink Cymru am gymorth ar 0808 250 5700.

Dolen I’r Gwefan:

 

https://llyw.cymru/hawliwch-yr-hyn-syn-ddyledus-i-chi

 

Llywodraeth Cymru

Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)

Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru.

https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil-cysylltiedig-coronafeirws-covid-19

Offeryn asesu risg gweithlu COVID-19: canllawiau

Canllawiau ar gyfer asesu risg gweithlu COVID-19 ar gyfer rheolwyr a staff.

adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu-canllawiau

Brechiad COVID-19 ar gyfer gofalwyr di-dâl

Canllawiau ar frechiad COVID-19 i ofalwyr di-dâl cymwys fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6.

brechiad-covid-19-ar-gyfer-gofalwyr-di-dal

Datganiad Ysgrifenedig: Profion COVID-19 yn y Gweithle

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

datganiad-ysgrifenedig-profion-covid-19-yn-y-gweithle

Hwb i’r rhaglenni brechu a phrofi er mwyn helpu i ailagor Cymru yn ddiogel

Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd y rhaglen brofi yn cael ei ehangu, a brechiadau’n cael eu rhoi’n gyflymach er mwyn helpu Cymru i ailagor yn ddiogel.

hwb-ir-rhaglenni-brechu-phrofi-er-mwyn-helpu-i-ailagor-cymru-yn-ddiogel

Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant: cadw gofal plant yn ddiogel

Sut i baratoi eich gwasanaeth gofal plant i ganiatáu i fwy o blant fynychu, a'u diogelu nhw a'ch staff rhag y coronafeirws.

mesurau-diogelu-mewn-lleoliadau-gofal-plant-cadw-gofal-plant-yn-ddiogel

Brechu COVID-19: blaenoriaethau unigolion gydag anableddau dysgu neu salwch meddwl difrifol

Canllawiau at gymhwysedd grŵp blaenoriaeth 6 ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu neu salwch meddwl difrifol.

brechu-covid-19-blaenoriaethau-unigolion-gydag-anableddau-dysgu-neu-salwch-meddwl-difrifol

Canllawiau i awdurdodau lleol ar Gynnig Gofal Plant Cymru: y coronafeirws

Beth sydd angen i awdurdodau lleol ei wneud er mwyn ailgychwyn Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfer plant 3 a 4 oed.

canllawiau-i-awdurdodau-lleol-ar-gynnig-gofal-plant-cymru-y-coronafeirws

 

Lefel rhybudd COVID-19: diweddariad gan Brif Swyddogion Meddygol y DU

Neges gan 4 Prif Swyddog Meddygol y DU ar lefel rhybudd y DU.

lefel-rhybudd-covid-19-diweddariad-gan-brif-swyddogion-meddygol-y-du

 

Diweddariad strategaeth brechu COVID-19 Chwefror 2021

Diweddariad ar ein strategaeth brechu COVID-19, blaenoriaethau a chyraeddiadau hyd yn hyn.

diweddariad-strategaeth-brechu-covid-19-chwefror-2021

 

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad Strategaeth Frechu COVID-19

Vaughan Gething MS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

datganiad-ysgrifenedig-diweddariad-strategaeth-frechu-covid-19

 

Cyngor i berchnogion anifeiliaid anwes: coronafeirws (COVID-19)

Cyngor i berchnogion anifeiliaid anwes ar sut i ofalu am eu hanifeiliaid anwes yn ystod cyfnod mesurau rheoli COVID-19.

yngor-i-berchnogion-anifeiliaid-anwes-coronafeirws-covid-19

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 03/03/2021