LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

Llywodraeth Cymru

Llythyr ynglŷn a Brechiad Covid i Staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ynghyd â Phrif Swyddog Meddygol / Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru a Phrif Swyddog Nyrsio wedi ysgrifennu at yr holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn eu hannog i dderbyn y brechiad covid-19.

Llythyr ynglyn a brechiad covid i staff iechyd a gofal cymdeithasol

Datganiad Ysgrifenedig: Cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar

Datganiad Ysgrifenedig: Cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-
cyfyngiadau-lefel-rhybudd-pedwar

Lefel rhybudd 4

Crynodeb o beth sy'n rhaid i chi ei wneud a beth sydd ar agor ar lefel rhybudd uchel iawn lefel 4.

https://llyw.cymru/canllaw-lefel-rhybudd-4

Lefel rhybudd 4: cwestiynau cyffredin

Canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a pha reolau sydd yn eu lle i ddiogelu pobl yn lefel rhybudd 4.

https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4-cwestiynau-cyffredin

“Gall unrhyw un deimlo’n unig” meddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru, “ond mae cymorth a chefnogaeth ar gael”

Mae canfyddiadau newydd Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar unigrwydd yn cadarnhau bod cysylltiad cryf rhwng unigrwydd a pha mor hapus y mae rhywun, a bod pobl sy’n unig lawer yn llai bodlon â’u bywyd.

https://llyw.cymru/gall-unrhyw-un-deimlon
-unig-meddai-gweinidogion-llywodraeth-cymru-ond-mae-cymorth-chefnogaeth-ar

Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr

Canllawiau ar sut i alluogi ymwelwyr i ymweld yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws.

https://llyw.cymru/ymweliadau-chartrefi-gofal-
canllawiau-i-ddarparwyr

Protocol Cenedlaethol ar gyfer brechlyn Pfizer BioNTech COVID-19

Protocol awdurdodi ar gyfer gweithwyr proffesiynol anghofrestredig i imiwneiddio pobl sydd â'r brechlyn COVID 19.

https://llyw.cymru/protocol-cenedlaethol-ar-gyfer-brechlyn-pfizer-biontech-covid-19

Cyfleusterau profi coronafeirws rhanbarthol

Mae capasiti profi Cymru wedi’i gefnogi gan rwydwaith helaeth o gyfleusterau ledled y wlad.

https://llyw.cymru/cyfleusterau-profi-coronafeirws-rhanbarthol

Cerdyn Nadolig i Gartrefi Gofal - Carolau gyda Lesley Garrett CBE

Bydd cartrefi gofal ledled y wlad yn gallu tiwnio i mewn i gyngerdd carolau Nadolig arbennig wedi'i ffrydio ddydd Mercher 23 Rhagfyr am 4pm, gyda chwarae ar-alw ar gael tan 5ed Ionawr. Gyda chefnogaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, bydd côr awyr agored yn cael ei arwain gan y gantores soprano Lesley Garrett o Abaty Westminster i’r rhai mewn cartrefi gofal na allant fentro allan i glywed canu byw eleni.

A Christmas Card to Care Homes – Carols with Lesley Garrett CBE

Estyniadau i fisas ar gyfer gweithwyr ym maes iechyd a gofal yn ystod argyfwng y coronafeirws (COVID-19)

  • Os ydych yn gweithio ym maes iechyd neu ofal, gallwch fod yn gymwys ar gyfer estyniad i'ch fisa am flwyddyn am ddim.
  • Er mwyn cael yr estyniad, mae'n rhaid i chi fodloni'r canlynol:
    • meddu ar fisa sy'n dod i ben rhwng 1 Hydref 2020 a 31 Mawrth 2021
    • gweithio i'r GIG neu ddarparwr gofal iechyd annibynnol mewn proffesiwn cymwys.
  •  
  • Mae proffesiynau cymwys yn cynnwys y canlynol, heb fod yn gyfyngedig iddynt: nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, a gweithwyr therapi proffesiynol.
  • Gallai aelodau o'r teulu sy'n 'ddibynyddion' ar eich fisa hefyd fod yn gymwys i estyniad i'w fisâu am flwyddyn am ddim.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen rhagor o wybodaeth a gwneud cais ar-lein:

https://www.gov.uk/coronavirus-health-worker-visa-extension

Cynllun Ad-dalu’r Gordal Iechyd Mewnfudo

    •  
  • Mae'n bosibl y bydd pobl sy'n gweithio mewn rolau gofal cymdeithasol ac sydd wedi talu'r Gordal Iechyd Mewnfudo yn gallu hawlio'u harian yn ôl wrth Lywodraeth Ei Mawrhydi.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod wedi gweithio isafswm o 16 awr yr wythnos yn ystod y cyfnod hwnnw, ond gall hyn fod mewn mwy nag un swydd gymwys. Mae taliadau ad-dalu yn cael eu prosesu mewn rhandaliadau bob chwe mis ar ffurf ôl-daliad.
  • Gall ymgeiswyr sy'n gymwys wneud cais ar-lein bellach a dysgu mwy am y cynllun. Mae cymorth ar gael dros y ffôn os oes angen help arnoch i wneud cais.

Dolen i’r cynllun ad-dalu:

https://immigration-health-surcharge-reimbursement.service.gov.uk/     

Dolen i'r canllawiau, os oes angen mwy o fanylion: https://www.gov.uk/government/publications/immigration-health-surcharge-applying-for-a-refund

Atgoffa terfynol o ymgynghoriad: Rhesymoli'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gynigion i ddiwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 i resymoli'r gweithdrefnau rheoleiddio sy'n goruchwylio systemau llethu tân awtomatig mewn cartrefi gofal i blant. 

 

Gwelir manylion pellach ar y ddolen ganlynol.

 

https://llyw.cymru/systemau-llethu-tan-
awtomatig-mewn-cartrefi-gofal-i-blant

 

Canolfan Cydweithredol Cymru

Cywiriad:

 

Canolfan Cydweithredol Cymru

 

Gweithredu’r  argymhellion yn ‘Helpu Comisiynwyr a Chaffaelwyr Gofal i Hyrwyddo Modelau Gwerth Cymdeithasol’

Nododd y bwletin blaenorol fod WCPP yn arwain ar y gwaith isod. Mewn gwirionedd, mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn arwain y gwaith hwn.

 

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn awyddus i glywed a hoffech chi weithio trwy datrysiadau ymarferol gyda nhw. Os hoffech, cwblhewch y wybodaeth ofynnol isod a'i dychwelyd i: donna.coyle@wales.coop. Y dyddiad cau ar gyfer gwybodaeth yw dydd Gwener 8fed Ionawr.

 

  1. Pa themâu datblygu y mae gennych ddiddordeb ynddynt?
  • Penodi a sgorio ar gyfer gwerth cymdeithasol a chanlyniadau lluosog
  • Comisiynu ar gyfer gwerth cymdeithasol, cyn ac ar ôl caffael
  • Adeiladu gallu y tu hwnt i'r farchnad
  • Arall?
  1. Pwy fydd yn eich tîm?
  2. Rhowch eich enw a'ch manylion cyswllt, a chynnwys eich rôl a'ch sefydliad.

Modelau gwerth cymdeithasol

 

Darllenwch yr aroddiad: https://wales.coop/wp-content/uploads/2020/11/Social-value-CtoC-
Brochure-Welsh-20.11.20.pdf

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 23/12/2020