LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolenni

 

Digwyddiad: Dathlu Canlyniadau mewn Gofal Cartref - 24 Mawrth 2021

 

#NCBCymruWales
CelebratingCare@Home
Canlyniadau

 

#BCCCymruWalesDathlu
CanlyniadauGofalCartref

 

Anogir cyfranogiad yn y Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer siaradwyr di-Gymraeg.

 

Mae croeso i chi fynychu unrhyw un o'r sesiynau neu'r diwrnod cyfan.

 

Caiff y sesiynau eu recordio a byddant ar gael i'w gwylio'n hwyrach.

 

Mae'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a Fforwm Cenedlaethol Darparwyr Cymru yn awyddus i ddod â llu o gydweithwyr o Gymru a thu hwnt at ei gilydd i ddathlu gofal cartref a rhannu gwybodaeth am arloesi a datblygu.

 

Bydd y diwrnod yn cynnwys saith sesiwn (hyd at awr yr un) sy'n hygyrch fel sesiynau unigol neu fel diwrnod cyfan o sesiynau trafod (sesiwn lawn).

Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyflwyniad o oddeutu 20 munud ac wedyn bydd 15 i 20 munud ar gyfer cwestiynau.

 

Bydd y digwyddiad yn annog cyfranogwyr i roi sylwadau a gofyn cwestiynau trwy ddefnyddio'r adnodd sgwrs i annog ymgysylltu a rhwydweithio.

 

Mae'r digwyddiad ar agor i bawb ond wedi'i dargedu at ddarparwyr a chomisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol a dinasyddion.

 

Mae'r rhaglen yn cynnwys sesiynau ar y canlynol:

  • Cymorth a arweinir gan y gymuned
  • Catalyddion Cymunedol
  • Lansiad matrics costau gofal cartref yng Nghymru
  • Adnoddau recordio ar gyfer arfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Modelau amgen ar gyfer cyflwyno gofal cartref
  • Timau lles hunan-reoledig
  • Gweinyddu meddyginiaeth yn y gymuned - diweddariad gan y gweithgor
  • Astudiaethau achos ar ganlyniad arferion yng Nghymru (newid mwyaf arwyddocaol).

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad

Gweminar y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth: Darparu gofal dydd diogel, wyneb yn wyneb i oedolion.

24 Mawrth 2021, 1.30pm-2.30pm

 

Bydd y weminar hon yn:

  • cyflwyno trosolwg o ganllaw’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth i ddarparu gofal dydd diogel, wyneb yn wyneb i oedolion yn ogystal ag enghreifftiau ymarferol o'r sector.
  • anelu at gefnogi'r ddarpariaeth ddiogel o wasanaethau trwy dynnu sylw at ganllawiau allweddol, darparu enghreifftiau ymarferol, cefnogi cysylltiadau gyda darparwyr ac ymateb i gwestiynau allweddol o'r sector.

Bydd y siaradwyr yn trafod y ffordd mae'r darparwyr wedi aros ar agor, neu wedi ailagor yn ystod pandemig COVID-19, nodi'r heriau allweddol a'r ffordd y maent wedi ymateb i'r heriau hynny.

Mae'r siaradwyr yn cynnwys:

Rebekah Luff, Uwch-ddadansoddwr Ymchwil, Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth

Alison Tidy, Rheolwr y Gwasanaeth, Canolfan Adnoddau Cymunedol Hollacombe, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG ar gyfer ardal Torbay a De Dyfnaint

Mark Wilson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu, Cyfeillion yr Henoed

a fydd yn ateb cwestiynau gan y mynychwyr ac yn trafod y materion sy'n cael eu codi.

Cofrestru ar gyfer y weminar hon

 

 

delivering-safe-adult-day-care.pdf

 

Arolygaeth Gofal Cymru

Llythyr gan Albert Heaney, Dirprwy Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Datblygiad cyffrous i gartrefi gofal yng Nghymru

Mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Albert Heaney wedi ysgrifennu at ddarparwyr gofal gyda diweddariad ar ddatblygiad yr offeryn capasiti gofal a chymorth ar-lein am ddim i dracio lleoedd gwag mewn cartrefi gofal oedolion, a'r diweddariadau sy'n cael eu gwneud er budd ddarparwyr.

Datblygiad cyffrous i gartrefi gofal yng Nghymru (govdelivery.com)

Llywodraeth Cymru

Cynnig Cymorth y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i'r Sector Gofal Cymdeithasol gan Newfields Law

Mae Newfields Law wedi cynnig y canlynol i ddarparwyr gofal cymdeithasol mewn perthynas â'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd:

 

  • 'Clinig cynghori' i staff lle mae cynrychiolydd o'r adran Adnoddau Dynol yn trefnu slotiau amser mewn diwrnod sydd wedi'i drefnu i staff ymuno â galwad gyda ni yn Newfields. Bydd slot amser o 20 i 30 munud i drafod unrhyw ymholiadau sydd ganddynt am y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu cyngor penodol i unigolion ac anfon cyngor pellach yn dilyn y sesiwn. Yna, os oedd angen cefnogaeth bellach arnynt gyda'r cais, mae'r cyswllt eisoes wedi cael ei greu felly bydd modd i ni barhau i'w cynorthwyo. Mae hwn wedi bod yn adnodd effeithiol iawn sydd wedi cael ei ddefnyddio nifer o weithiau ar gyfer Prifysgol Caerdydd.

 

  • Gellir targedu'r weminarau at y rhai sy'n gwneud cais i'r cynllun a/neu staff Adnoddau Dynol. Gall y weminar hon gynnwys gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, rheolau mewnfudo, fisa ar gyfer gweithiwr medrus, fisa ar gyfer gofal iechyd a gwybodaeth gyffredinol am ganiatâd amhenodol i aros (os oes angen). Gallwn hefyd gynnig gweminar i nifer o dimau ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi ei theilwra ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.

 

Cyswllt: Alicia Percival

02921 690049

Alicia@newfieldslaw.com

Datganiad Ysgrifenedig: Rhaglen Frechu COVID-19 - 1 filiwn o bobl wedi cael y brechlyn

 

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-rhaglen-frechu-covid-19-1-filiwn-o-bobl-wedi-cael-y-brechlyn

Datganiad Ysgrifenedig: Fframwaith ar gyfer rhoi profion COVID-19 i gleifion ysbytai yng Nghymru

 

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-fframwaith-ar-gyfer-rhoi-profion-covid-19-i-gleifion-ysbytai-yng-nghymru

Fframwaith profi cleifion mewn ysbytai am COVID-19: Mawrth 2021

 

Sut dylai byrddau iechyd fynd i’r afael â phrofi cleifion mewn ysbytai i rwystro lledaeniad y coronafeirws.

https://llyw.cymru/fframwaith-profi-cleifion-mewn-ysbytai-am-covid-19-mawrth-2021

Asesiadau o effaith: coronafeirws

 

Asesiadau o sut mae ein mesurau i reoli COVID-19 yn effeithio ar gydraddoldeb.

https://llyw.cymru/asesiadau-o-effaith-coronafeirws

Brechiadau Covid-19 i bobl sy'n ddigartref

 

Esboniad o’r meini prawf sydd i'w defnyddio i nodi pobl sy'n ddigartref yng ngrŵp blaenoriaeth 6 ar gyfer y brechiad COVID-19.

https://llyw.cymru/brechiadau-covid-19-i-bobl-syn-ddigartref

Grwpiau blaenoriaeth brechu COVID-19

 

Y drefn y byddwn yn brechu'r boblogaeth yn erbyn COVID-19.

https://llyw.cymru/grwpiau-blaenoriaeth-brechu-covid-19

Cyfleusterau profi coronafeirws rhanbarthol

 

Mae capasiti profi Cymru wedi’i gefnogi gan rwydwaith helaeth o gyfleusterau ledled y wlad.

https://llyw.cymru/cyfleusterau-profi-coronafeirws-rhanbarthol

Gohirio llawdriniaethau

 

Gwybodaeth am lawdriniaethau a ohiriwyd o ganlyniad i bandemig Covid-19.

https://llyw.cymru/atisn14934

Datganiad Ysgrifenedig: Cyflawni Rhaglen Frechu COVID-19 – esboniad ynghylch y diffiniad o asthma difrifol ar gyfer cynnwys pobl yng ngrŵp 6

 

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyflawni-rhaglen-frechu-covid-19-esboniad-ynghylch-y-diffiniad-o-asthma

Y Prif Weinidog i gyhoeddi’r camau cyntaf tuag at lacio’r cyfyngiadau

 

Heddiw, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn codi’r gofyniad i “aros gartref” yng Nghymru o yfory ymlaen, gan gyflwyno gofyniad i “aros yn lleol” yn ei le. Bydd hyn yn rhan o ddull gofalus, pwyllog a graddol o lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.

https://llyw.cymru/y-prif-weinidog-i-gyhoeddir-camau-cyntaf-tuag-at-lacior-cyfyngiadau

Datganiad Ysgrifenedig: Y cyngor i’r rheini sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol o 1 Ebrill ymlaen

 

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-y-cyngor-ir-rheini-syn-eithriadol-o-agored-i-niwed-yn-glinigol-o-1-ebrill

Canllawiau ar ddiogelu pobl a ddiffinnir yn glinigol ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws (COVID-19) – y cynllun ‘gwarchod’ gynt

 

Canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y COVID-19

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddiogelu-pobl-ddiffinnir-yn-glinigol-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored

Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr

 

Canllawiau ar sut i alluogi ymwelwyr i ymweld yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws.

https://llyw.cymru/ymweliadau-chartrefi-gofal-canllawiau-i-ddarparwyr

 

 


 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 17/03/2021