LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolenni

Llywodraeth Cymru

Canllawiau ar gyfer profi gyda dyfeisiau profi llif unffordd i staff mewn cartrefi gofal

Yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 4 Chwefror mewn perthynas â phrofion ehangach ar gyfer staff cartrefi gofal, amgaeaf;

  • Llythyr yn rhoi rhagor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin
  • Taflen arweiniad hunan-brofi

 

Canllawiau ar gyfer profi llif unffordd mewn cartrefi gofal

Taflen arweiniad hunan profi

Tystiolaeth ar gywirdeb profion gyda dyfeisiau llif unffordd

 

Ynghlwm, mae rhai o'r dystiolaeth ategol sydd wedi bod o gymorth wrth lunio polisi Llywodraeth Cymru yn ogystal â dolen i grynodeb o dystiolaeth a ddarparwyd gan Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddiweddar.

 

Rhyddhawyd nodyn o dystiolaeth gan Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar effeithiolrwydd dyfeisiau profi llif unffordd ym mis Rhagfyr gan grynhoi astudiaethau perthnasol. Er i hyn gael ei ysgrifennu  yng nghyd-destun profi ymwelwyr, mae'n dal yn berthnasol ar gyfer cynnal profion ehangach ar gyfer staff gofal cymdeithasol. Gellir dod o hyd i hyn yma: https://www.gov.uk/government/publications/evidence-on-the-accuracy-of-lateral-flow-device-testing

 

Ynghlwm, ceir copi o'r sleidiau a rannwyd yn ddiweddar sy'n cynnwys y ddolen ganlynol:

UK evaluation_PHE Porton Down University of Oxford_final.pdf

 

 Cozier et all use of rapid testing technologies for covid-19

 

Repeated mass testing with rapid antigen tests

 

Diweddariad ar rhaglen profi gofal cymdeithasol

 

 

 

 

Canllawiau diwygiedig ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn dilyn COVID-19 - nodyn atgoffa

Nodyn atgoffa i'r holl bartneriaid i ddilyn y canllawiau diwygiedig ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn dilyn COVID-19

Saesneg yn unig https://gov.wales/covid19-hospital-discharge-service-requirements.pdf

Cynllun Yswiriant Bywyd y GIG a Gofal Cymdeithasol

Mae ceisiadau i'r cynllun hwn yn is na'r disgwyl.

Byddwch yn ymwybodol

  • nid yw gwneud cais i’r cynllun hwn yn gwneud y cyflogwr yn atebol am farwolaeth aelod o staff. Nid yw taliadau i deuluoedd yn awgrymu unrhyw atebolrwydd ar ran y cyflogwr am y farwolaeth.
  • Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch ag Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG am gymorth

Rydym yn gwybod y byddwch yn cytuno mor bwysig ydyw bod teuluoedd galarus yn cael mynediad at gymorth ariannol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

https://www.nhsbsa.nhs.uk/coronavirus-life-assurance-2020

Hyblygrwydd Dros Dro: Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig estyniad o wyth wythnos i'r dyddiad cau o 31 Mawrth 2021 i ofalwyr maeth a gymeradwywyd i ddefnyddio ffurflen hunanddatganiad iechyd i gwblhau asesiad iechyd oedolion llawn.

Llythyr rhanddeiliaid - Hyblygrwydd Dros Dro - Y Paneli Maethu

Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Canfyddiadau ar ymgorffori Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

datganiad-ysgrifenedig-cyhoeddi-gwerthusiad-o-ddeddf-gwasanaethau-cymdeithasol-llesiant-cymru-2014

Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)

Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru.

https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil-cysylltiedig-coronafeirws-covid-19

Cyfle olaf i wneud cais - cyllid pod ymweld ar gael tan 26 Chwefror

Nodyn i'ch atgoffa bod cyllid Llywodraeth Cymru ar gael o hyd i gynorthwyo darparwyr gyda chostau llogi codennau ymwelwyr, ac unrhyw gostau yswiriant cysylltiedig o logi'r strwythurau hyn, i helpu eu preswylwyr i dreulio amser gyda ffrindiau a theulu eto.

Gellir dod o hyd i ddolen i fanylion am sut i wneud cais am gyllid yn:

Mae cyllid podiau ymweld ar gael o hyd (govdelivery.com)

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Adnoddau Hygyrch Brechlyn Covid-19

Ar y dudalen hon cewch daflenni brechlyn COVID-19 mewn fformatau hygyrch. Mae'r rhain yn cynnwys Hawdd ei Ddeall, Iaith Arwyddion Prydain, Print Bras a chyfieithiadau o ddogfennau allweddol ar gyfer siaradwyr ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg.

Adnoddau Hygyrch Brechlyn Covid-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 17/02/2021