LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

 

Pwnc

Manylion

Dolenni

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cysylltiadau aelwydydd oedolion gyda imiwnedd ataliedig i gael cynnig brechiad COVID-19

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JVCI) y dylai pobl dros 16 oed sy'n byw gydag unigolion sydd â systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau'n ddifrifol gael cynnig brechiad COVID-19 fel blaenoriaeth.  

Mae trefniadau'n cael eu gwneud yn awr i wahodd yr unigolion hyn i gael eu brechu. Bydd y manylion llawn yn dilyn.

Mae oedolion sydd ag imiwnedd ataliedig yn ei chael yn anoddach i ymladd heintiau'n naturiol ac maent yn fwy tebygol o gael canlyniadau gwaeth yn dilyn haint COVID-19. Mae tystiolaeth gynyddol y gallai brechlynnau COVID-19 leihau'r siawns i rhywun sydd wedi cael ei frechu drosglwyddo'r feirws. Bydd brechu cysylltiadau aelwydydd yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws i oedolion imiwnataliedig. 

Cysylltiadau aelwydydd a ystyrir yn flaenoriaeth fyddai'r rhai dros 16 oed sy'n rhannu llety byw gydag oedolion imiwnataliedig. Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu cysylltiadau cartref plant imiwnataliedig, na phlant sy'n gysylltiadau cartref ag oedolion imiwnataliedig.

Dylai oedolion imiwnataliedig fod wedi cael cynnig brechiad COVID-19 eisoes fel rhan o grŵp 6 (pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol fel y'u diffinnir gan y JVCI). 

Dilynwch gyfarwyddiadau eich bwrdd iechyd ar y ddolen hon os ydych yn y categori hwn ac nad ydych wedi derbyn gwahoddiad i frechu eto.

 

Mae canllawiau asesu risg Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach ar gael

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi cyhoeddi ei ganllaw asesu risg ar gyfer cartrefi gofal, ar gyfer ymweld â chartrefi gofal. (Dogfen Saesneg yn unig)

Efallai y bydd darparwyr yn cofio inni gynnal gweminar gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ddechrau mis Mawrth ynghylch y templed a'r arweiniad asesu risg.

 

Gallwch wylio'r recordiad trwy YouTube.

Sylwch fod y sesiwn wedi'i chynnal yn Saesneg, ond mae YouTube yn cynnig cyfleuster i gael isdeitlau Cymraeg.

 

Canllaw asesu risg ar gyfer cartrefi gofal

Llywodraeth Cymru

Datganiad ar y cyd gan pedwar gweinidog iechyd y DU ar gyngor JCVI ar gyfer cam 2 rhaglen frechu COVID-19

Heddiw (13 Ebrill) mae'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi cyhoeddi ei gyngor terfynol ar gyfer cam 2 rhaglen frechu COVID-19, gan nodi mai'r ffordd fwyaf effeithiol i leihau ysbytai a marwolaethau yw parhau i flaenoriaethu pobl yn ôl oedran.

Gweler y datganiad llawn (Saesneg yn unig):

https://www.gov.uk/government/news/uk-health-ministers-statement-on-jcvi-advice-13-april-2021

Cysylltiadau aelwydydd oedolion gyda imiwnedd ataliedig i gael cynnig brechiad COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JVCI) y dylai pobl dros 16 oed sy'n byw gydag unigolion sydd â systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau'n ddifrifol gael cynnig brechiad COVID-19 fel blaenoriaeth.

https://llyw.cymru/cysylltiadau-aelwydydd-oedolion-gyda-imiwnedd-ataliedig-i-gael-cynnig-brechiad-covid-19

 

Pobl yng Nghymru sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i ddefnyddio hunan-brofion llif unffordd

Mae’r rheini sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i gael pecynnau hunan-brofi dyfeisiau llif unffordd wrth iddynt gael eu cyflwyno ar draws Cymru.

Bydd y pecynnau profi cyflym hyn ar gyfer y coronafeirws ar gael i’w casglu o safleoedd profi lleol ledled Cymru o ddydd Gwener yma (16 Ebrill) ymlaen.

https://llyw.cymru/pobl-yng-nghymru-syn-methu-gweithio-gartref-yn-cael-eu-hannog-i-ddefnyddio-hunan-brofion-llif

 

Datganiad Ysgrifenedig: Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Gwnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, ddatganiad ar y newidiadau i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, sydd wedi eu diwygio mewn nifer o feysydd.

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diwygiadau-i-reoliadau-diogelu-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-rhif-5

 

  • Awdur: Rachel Pitman ADSS Cymru
  • Dyddiad: 14/04/2021