LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolenni

Llywodraeth Cymru

Offeryn asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu

Mae offeryn asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu wedi cael ei ddiweddaru ynghylch y canlynol:

Brechiad

er mwyn adlewyrchu'r canllawiau diweddaredig ar gyfer y rheiny sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol

Rydym yn argymell i unrhyw un nad yw wedi derbyn asesiad i gael un, neu os cafwyd newid yn eich amgylchiadau i gael un arall.

Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu | LLYW.CYMRU

Y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol

Mae'r cynllun yn darparu hyd at gyflog llawn i unrhyw weithwyr gofal cymdeithasol cymwys sy'n derbyn gostyngiad yn eu cyflog pan fydd rhaid iddynt hunanynysu o ganlyniad i COVID-19

Mae'r cynllun wedi cael ei ymestyn i fis Medi 2021

Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19 | LLYW.CYMRU

Cynllun cymorth hunanynysu

 

Fe allech chi gael taliad o £500 i helpu os ydych wedi colli enillion o ganlyniad i orfod hunanynysu ac na allwch weithio gartref.

https://llyw.cymru/cynllun-cymorth-hunanynysu

 

Cael brechlyn COVID-19 os ydych yn credu eich bod wedi colli allan

Beth i'w wneud os ydych i fod i gael eich brechlyn COVID-19 a heb gael neb yn cysylltu â chi.

https://llyw.cymru/cael-brechlyn-covid-19-os-ydych-yn-credu-eich-bod-wedi-colli-allan

 

Ap COVID-19 y GIG

 

Sut fydd ap COVID-19 y GIG yn helpu yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.

https://llyw.cymru/ap-covid-19-y-gig

 

Datganiad Ysgrifenedig: Y diweddaraf ar ymweliadau â chartrefi gofal

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-y-diweddaraf-ar-ymweliadau-chartrefi-gofal

 

Profion llif unffordd COVID-19 ar gyfer pobl heb symptomau

Sut mae profion llif COVID-19 yn gweithio a’u rôl yn ein rhaglen brofi genedlaethol.

https://llyw.cymru/profion-llif-unffordd-covid-19-ar-gyfer-pobl-heb-symptomau

Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o gefnogaeth i elusennau a sefydliadau trydydd sector yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru unwaith eto yn cefnogi gwirfoddolwyr, elusennau a sefydliadau trydydd sector yng Nghymru sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i Covid-19. Byddant yn cael cymorth ariannol ychwanegol i helpu i ddiwallu eu hanghenion.

https://llyw.cymru/llywodraeth-cymru-yn-rhoi-rhagor-o-gefnogaeth-i-elusennau-sefydliadau-trydydd-sector-yng-nghymru

Cartrefi Gofal Plant – profi am COVID-19 ac ymweliadau

 

Ar 2 Mawrth ac yn unol â chynllun rheoli'r coronafeirws Llywodraeth Cymru: Lefelau rhybudd yng Nghymru ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant, a gyhoeddwyd ar 23 Rhagfyr, llythyr a chanllawiau a gyflwynwyd i gartrefi gofal plant ynglŷn â'r rhaglen profi am COVID-19 ar gyfer gofal cymdeithasol yn cael ei hymestyn i gartrefi gofal plant.

 

Saesneg yn unig Letter to children's residential care homes re C-19 testing Mar 21.pdf (govdelivery.com)

LFD visitor testing guidance pack 

Letter to visitors - English

Children's Care Home Visitor Testing 

Care home COVID-19 PCR testing 

Brechiadau COVID-19 i ofalwyr di-dâl sy'n gymwys o dan grŵp blaenoriaeth 6

Gall gofalwyr di-dâl nad ydynt eisoes wedi’u cofrestru fel gofalwyr di-dâl gyda'u meddyg teulu gwblhau ffurflen hunanatgyfeirio ar-lein (ar gael o ddydd Llun 8 Mawrth). Ar ôl i'r ffurflen gael ei phrosesu, byddant yn cael eu gwahodd i dderbyn brechiad, ac nid oes angen iddynt gysylltu â'u bwrdd iechyd neu feddyg teulu hefyd. Mae'r canllawiau'n diffinio gofalwyr di-dâl fel y rhai sy'n brif neu’n unig ofalwr rhywun sy'n agored i niwed yn glinigol.

Brechiad COVID-19 ar gyfer gofalwyr di-dâl [HTML] | LLYW.CYMRU

 

 

Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr

 

Disgrifiad cryno: Mae ceisiadau ar gyfer Rhaglen Darpar Arweinwyr Sefydliad Nyrsio'r Frenhines ar agor i bob nyrs sy'n gweithio yn y gymuned ac ym maes gofal cymdeithasol. Cynlluniwyd y rhaglen er mwyn cefnogi datblygiad proffesiynol nyrsys i ddod yn arweinwyr i’r dyfodol, er budd y bobl, y teuluoedd a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Ewch i'r wefan am wybodaeth bellach, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd a ffioedd y rhaglen. Mae ceisiadau'n cau ar 26 Mawrth.

Saesneg yn unig: https://www.qni.org.uk/explore-qni/leadership-programmes/aspiring-leaders/

Gofal Cymdeithasol Cymru

NODYN ATGOFFA: Dod drwyddi gyda’n gilydd

Hoffem eich gwahodd chi i fod yn rhan o rwydwaith cymorth ar-lein newydd.  Mae’r grŵp cymorth hyn i’r rhai ohonoch sy’n gweithio mewn gofal ac wedi cael profiad o brofedigaeth yn eich gweithle yn ystod y cyfnod yma. Os oes angen ychydig o le i siarad, gallwch gysylltu ag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg mewn lle cyfrinachol.

Bydd y rhwydwaith yn cyfarfod unwaith y mis am awr ar Zoom. Bydd y sesiwnau cyntaf ar 18 a 25 Mawrth.

Os oes angen mwy o wybodaeth neu cadw lle, anfonwch e-bost at asha.hassan@gofalcymdeithasol.cymru neu ymunwch un o’r sesiynau galw heibio lle byddwn rhoi mwy o fanylion. Cliciwch ar y dolen Zoom isod.

Mae hwn yn bartneriaeth rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru, Age Cymru, Ffowm Gofal Cymru a Hosbis y Cymoedd.

Sesiwn galw heibio ar

15fed Mawrth 8am – 9am Dolen i ymuno

 

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 10/03/2021