LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolenni

Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhoi Lles a chymorth i’r gweithlu

(ailgyhoeddi gwybodaeth a chynnig cymorth newydd)

Nodyn atgoffa o'r cymorth sydd ar gael:

 

  • Llinell gymorth gyfrinachol am ddim (y Samariaid) i weithwyr ym maes iechyd a gofal. [Ffoniwch 800 484 0555 – ar agor bob dydd, 7am i 11pm;Llinell gymorth Cymraeg 0808 164 2777 – ar agor bob noswaith, 7pm i 11pm].
  • Cyngor ac apiau lles
  • Mae sesiynau cwnsela unigol ar gael trwy'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr [‘Care First’, sydd ar gael 24/7, ffoniwch 0333 2129 212].
  • Time for Me (rhwydwaith cymorth ar gyfer rheolwyr gofal cartref) a Cwtch (rhwydwaith cymorth ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal – cyfarfodydd bob pythefnos trwy Zoom)

 

  • Grant marw yn y swydd coronafeirws ar gyfer teuluoedd gweithwyr ym maes gofal cymdeithasol

 

Hefyd, mae Gofal Cymdeithasol Cymru, mewn partneriaeth ag Age Cymru, yn datblygu cynnig cymorth cymheiriaid ar gyfer staff gofal sydd wedi profi colledion mwy sylweddol, ac yn profi galar a cholled.

 

 

Adnoddau iechyd a lles i helpu gwella lles | Gofal Cymdeithasol Cymru 

 

Care First.doc

 

Time for You Cofrestru i'r Cyfarfod – Zoom

 

Cofrestru Cwtch – Zoom

 

https://www.nhsbsa.nhs.uk/nhs-and-social-care-coronavirus-life-assurance-scheme-2020-wales

 

Cysylltwch â rebecca.cicero@socialcare.wales i gael rhagor o wybodaeth

Gofalwn.cymru

Peilot rhaglen recriwtio sydyn

 

  • Nedd Port Talbot,
  • Abertawe,
  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir Benfro

Er mwyn ymateb i bryderon am argaeledd gweithwyr o ganlyniad i Covid-19 rydym yn

peilota rhaglen recriwtio sydyn sy’n creu llwybr carlam i gael pobl i mewn i swyddi’n

gyflym.

Bydd cwrs hyfforddi rhad-ac-am-ddim pedwar-diwrnod yn digwydd ar-lein (29 a 29 Ion, 3 a 4 Chwef) yn trafod y pethau hanfodol sydd angen eu gwybod er mwyn dechrau

gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Mae’r cwrs hwn wedi cael ei groesgyfeirio â’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar

gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Rhaid bod y recriwtiaid newydd yn gallu mynychu’r pedwar diwrnod llawn.

 

Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru ar borth swyddi Gofalwn Cymru. Byddwn yn cysylltu â nhw i drefnu cyfweliad anffurfiol dros y ffôn er mwyn penderfynu os ydynt yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol.

 

Os ydych wedi apwyntio aelodau staff newydd, h.y. o fewn pedair wythnos o’r dyddiadau hyfforddiant, ac yn ei chael hi’n anodd darparu hyfforddiant o ganlyniad i Covid-19, efallai

gallwn gynnig lle iddynt ar y cwrs. Cysylltwch â cyswllt@gofalwn.cymru i drafod hwn.

 

Bydd y peilot yn cael ei werthuso gan SCIE, gyda chynlluniau ar gyfer cyrsiau pellach rhwng mis Chwefror a mis Ebrill. Ewch i Gofalwn.cymru i gael manylion am gyrsiau yn y dyfodol a sut i gyflwyno cyfleoedd gwaith.

 

Mewn ymateb i'r pwysau Covid cyfredol, mae rhanbarthau eraill hefyd yn ystyried cyfleoedd i sefydlu rhaglen debyg fel rhan o gynlluniau cyd-gymorth a chynlluniau wrth gefn.

Training course - employers CYM

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Karen Wakelin

Rheolwr Datblygu a Gwella

 

Ffon: 029 2078 0610

E-bost: Karen.Wakelin@SocialCare.Wales

 

Arolygaeth Gofal Cymru

Dyfeisiau profi llif unffordd mewn cartrefi gofal yng Nghymru

 

Anfonodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) e-bost at bob cartref gofal i oedolion yr wythnos ddiwethaf ar ran Llywodraeth Cymru, ynglŷn â phrofi gweithwyr proffesiynol sy'n ymweld gan ddefnyddio dyfeisiau profi llif unffordd.

Mae cartrefi gofal yng Nghymru wedi cael cyflenwad o ddyfeisiau profi llif unffordd i baratoi ar gyfer profi ymwelwyr personol, a gellir defnyddio'r citiau hyn i brofi gweithwyr proffesiynol hefyd.

 

Mae staff cartrefi gofal wedi derbyn hyfforddiant ac arweiniad ar ddefnyddio’r profion llif unffordd sydd ar gael iddynt ers canol mis Rhagfyr, a dylent fod yn cyfeirio at y ddogfen ganllaw sydd wedi'i hatodi i'r llythyr hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori cartrefi gofal i sicrhau bod nifer o staff wedi cael eu hyfforddi i ddefnyddio'r profion llif unffordd, er mwyn osgoi senarios lle nad oes aelod staff hyfforddedig ar gael i brofi gweithiwr proffesiynol sydd angen ymweld â rhywun sy'n byw yn y cartref gofal.

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Brechlyn COVID-19:cwestiynau cyffredin AR GYFER GWEITHWYR PROFFESIYNOL YM MAES IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru'i gwestiynau cyffredin ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal ar y brechlyn COVID-19.

https://icc.gig.cymru/
pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/adnoddau-i-weithwyr-proffesiynol-iechyd-a-gofal-cymdeithasol/

Sefydliad Iechyd y Byd

Arweiniad Sefydliad Iechyd y Byd wedi'i ddiweddaru

 

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar atal a rheoli heintiau ar gyfer cyfleusterau gofal tymor hir yng nghyd-destun COVID-19.

WHO-2019-nCoV-IPC

Awdurdod Gwasanaethau Busnes GIG

Cynllun Yswiriant Bywyd Coronafeirws y GIG a Gofal Cymdeithasol

Mae'r cynllun hwn yn talu £60,000 i fuddiolwyr gweithwyr gofal cymdeithasol pan fydd modd cysylltu’r farwolaeth yn rhesymol â COVID-19 a natur y swydd.

https://www.nhsbsa.nhs.uk/nhs-and-social-care-coronavirus-life-assurance-scheme-2020-wales

Llywodraeth Cymru

Datganiad Llafar: Strategaeth frechu COVID-19

 

Vaughan Gething MS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-llafar-strategaeth-frechu-covid-19

 

Templedi atal a rheoli heintiau

 

Mae'r templed sydd wedi'i atodi wedi'i greu er mwyn cefnogi cartrefi gofal i feddwl am sut y gall arweiniad atal a rheoli heintiau fod yn gymwys yn eu lleoliad penodol. Digwyddodd hyn o ganlyniad i ymrwymiad yng nghynllun gaeaf Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol, ac mae wedi cael ei lywio gan drafodaethau gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, swyddogion iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol a chynrychiolwyr atal a rheoli heintiau mewn byrddau iechyd lleol.

Nid oes rhaid cwblhau'r templed hwn, ac mae rhai awdurdodau lleol a byrddau iechyd wedi datblygu templedi a phrosesau tebyg ar gyfer cartrefi yn eu hardaloedd. Gall y templed hwn fod yn ddefnyddiol i wasanaethau sy'n adolygu eu trefniadau atal a rheoli heintiau yn yr ardaloedd hynny lle nad oes dogfennau tebyg eisoes ar waith.

IPC template

 

Final Wales Waste

Strategaeth frechu COVID-19

 

Sut y byddwn yn diogelu ein poblogaeth rhag COVID-19 drwy frechu.

https://llyw.cymru/strategaeth-frechu-covid

 

Disgwyliadau o ran dysgu o bell i ddisgyblion mewn blynyddoedd arholiad

 

Darllenwch fwy am y disgwyliadau o ran dysgu o bell i ddisgyblion mewn blynyddoedd arholiad.

https://llyw.cymru/disgwyliadau-o-ran-dysgu-o-bell-i-ddisgyblion-mewn-blynyddoedd-arholiad

 

Canllawiau ar addysg uwch: Diogelu Cymru (COVID-19)

 

Beth gall y sector addysg uwch wneud i ddiogelu iechyd a diogelwch myfyrwyr, staff a’u cymuned.

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-addysg-uwch-diogelu-cymru-covid-19

 

Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer gofal plant a reoleiddir: canllawiau COVID-19

 

Sut mae’r newidadau dros dro i rai o ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol wedi’u hailgyflwyno i gefnogi’r rheini sy’n darparu gofal plant ar gyfer pob plentyn.

https://llyw.cymru/y-safonau-gofynnol-cenedlaethol-sgc-ar-gyfer-gofal-plant-reoleiddir-canllawiau-covid-19

 

Addysg bellach: coronafeirws

 

Newidiadau i ddysgu, arholiadau, a mynd i’r ysgol a’r coleg yn ystod pandemig y coronafeirws.

https://llyw.cymru/canllawiau-addysg-bellach-coronafeirws

 

Gwerth R

 

Copïau o’r data sy’n diffinio gwerth R

https://llyw.cymru/atisn14672

 

Marwolaethau o Covid

 

Nifer y marwolaethau o Covid.

https://llyw.cymru/atisn14655

 

Aros Gartref i Achub Bywydau – diolch i wirfoddolwyr cymunedol

 

Heddiw, diolchodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, i’r llu o wirfoddolwyr cymunedol ledled Cymru sy’n gweithio’n galed i ofalu amdanoch chi a’ch anwyliaid a’ch cadw’n saff yn y cyfnod anodd iawn hwn.

https://llyw.cymru/aros-gartref-i-achub-bywydau-diolch-i-wirfoddolwyr-cymunedol

 

Datganiad Ysgrifenedig: Atal coridorau teithio

 

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-atal-coridorau-teithio

 

Canolfannau brechu'r coronafeirws (COVID-19)

 

Rhestr o drefi a dinasoedd lle mae canolfannau brechu'r coronafeirws yn gweithredu neu wedi'u cynllunio.

https://llyw.cymru/canolfannau-brechur-coronafeirws-covid-19?_ga

 

Rhaglen Cymorth i Weithwyr i bawb sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol

Lansiwyd Rhaglen Cymorth i Weithwyr ar 4 Rhagfyr 2020 i bawb sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol yn y sectorau preifat a gwirfoddol yng Nghymru, gan gynnwys cynorthwywyr personol. Mae posteri a gwybodaeth am y gwasanaeth wedi'u hanfon at weithleoedd am sut i gael mynediad at y Rhaglen Cymorth i Weithwyr hon.

 

Darperir y gwasanaeth hwn gan Care First, sy'n gallu helpu gydag ystod eang o faterion gwaith, teulu a phersonol. O gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd i wybodaeth am ofal plant, ac o berthnasau i faterion yn y gweithle ac iechyd a lles, gall gwasanaeth y Rhaglen Cymorth i Weithwyr ddarparu cymorth i ddelio â materion sy'n cael effaith ar bawb yn ystod ein bywydau.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch EAPqueries@socialcare.wales

 

Ymgynghoriad Papur Gwyn ar ailgydbwyso gofal a chymorth

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio barn ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth i gyflawni'r weledigaeth a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth arnynt. Mae cynigion yn cynnwys gosod fframwaith cenedlaethol clir i gefnogi gwasanaethau a fydd yn cael ei gynllunio ar lefel ranbarthol a'i gyflwyno ar lefel leol, a chryfhau trefniadau partneriaethau.

Dolen – https://gov.wales/sites/default
/files/consultations/2021-01/consutation-document.pdf

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 20/01/2021