LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

Pwnc

Manylion

Dolen

Settled.org

Cefnogaeth i Ddinasyddion yr UE ar gael trwy Settled.org

Rhaid i ddinasyddion yr UE / AEE wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i fyw a gweithio yn y DU ar ôl 1 Ionawr 2021. Mae'r cynllun yn rhoi statws cyfreithiol iddynt sy'n amddiffyn eu hawliau dinasyddion ac yn eu galluogi i barhau i gael mynediad at wasanaethau lles. Os ydych chi'n gwybod am unrhyw un sydd angen cefnogaeth (cymydog, cydweithiwr, ffrind neu gleient) mae ein gwefan www.settled.org.uk

yn darparu gwybodaeth mewn 15 iaith. Mae Settled yn darparu cyngor mewn 8 iaith dros y ffôn ac mae ganddynt bresenoldeb ar Twitter a Facebook gyda Fforymau a Gweminarau mewn gwahanol ieithoedd.

 

Cyswllt yng Nghymru: Eva Plajerova - 07511 214678 neu eva@settled.org.uk

 

www.settled.org.uk

Llywodraeth y DU

Ymestyn y Cynllun Mynediad i'r Gwaith

Mae Covid-19 yn newid y modd yr ydym yn gweithio ac yn effeithio ar yr amgylchedd a’r trefniadau gwaith. Gyda llawer o gyflogwyr yn gofyn i weithwyr addasu i amgylchedd newydd, gall cynllun Mynediad i Waith gwneud cyfraniad allweddol at helpu pobl anabl i gadw eu swyddi, dychwelyd i’w swyddi a dod o hyd i swyddi.

 

  • Gall pobl sydd yn agored iawn i niwed yn glinigol gael ceisiadau newydd am gyllid grant eu brosesu’n gyflym.
  • Gall cyllid nawr dalu prisiau tacsi a chostau trafnidiaeth gyhoeddus, os yw cyflwr iechyd yn eich atal rhag teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig.

Bydd pobl sy'n gweithio gartref neu yn y gweithle ag anabledd yn elwa o gymorth ychwanegol, oherwydd estyniad o'r cynllun Mynediad i'r Gwaith, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer offer arbennig, costau teithio ac iechyd meddwl.

  • Cynnydd mewn cyllid a chefnogaeth ar gael i'r rheini sydd yn agored i niwed yn glinigol i barhau i weithio gartref neu barhau i fod yn gyflogedig.
  • Gall eich gweithle gynnwys eich cartref os ydych chi'n gweithio oddi yno rywfaint neu trwy’r amser
  • Gall cyllid hyd at £60,000 y pen gynnwys offer a chost teithio er mwyn osgoi trafnidiaeth gyhoeddus.

Dolen i'r wybodaeth

 

 

Gwnewch gais am gyllid naill ai
ar-lein ar: www.gov.uk/access-to-work 
neu ffoniwch 0800 121 7479.

Llywodraeth Cymru

Ymweliadau dan do â chartrefi gofal i ailddechrau yfory [dydd Gwener 28 Awst]

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal oedolion a phlant yn cael ailddechrau o ddydd Gwener 28 Awst, ddiwrnod yn gynt na’r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol.

 

https://llyw.cymru/ymweliadau-
dan-do-chartrefi-gofal-i-ailddechrau-yfory

Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr

Canllawiau i ddarparwyr cartrefi gofal ar gyfer oedolion a phlant ar sut i alluogi ymwelwyr i ymweld yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws.

 

https://llyw.cymru/ymweliadau-chartrefi
-gofal-canllawiau-i-ddarparwyr

Gwneud cais i gael prawf coronafeirws (COVID-19)

Cael prawf i ddarganfod a oes gennych coronafeirws.

 

https://llyw.cymru/gwneud-cais-i
-gael-prawf-coronafeirws-covid-19

Cynllun taliadau arbennig y gweithlu gofal cymdeithasol

Canllawiau terfynol ar bwy sy’n gymwys i dderbyn y taliad.

 

Dolen i'r wybodaeth

Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin

Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.

 

Dolen i'r wybodaeth

Annog Cymry sy’n dychwelyd o’u gwyliau i gadw at reolau cwarantin i atal lledaeniad COVID-19

Atgoffir pobl sy’n dychwelyd o’u gwyliau i ddilyn rheolau cwarantin ar ôl dychwelyd i Gymru o dramor er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.

 

https://llyw.cymru/annog-cymry-syn-
dychwelyd-ou-gwyliau-i-gadw-reolau-
cwarantin-i-atal-lledaeniad-covid-19

Deddfwriaeth y coronafeirws a chanllawiau ar y gyfraith

Pasiwyd y cyfreithiau a'r canllawiau ar y cyfreithiau hyn yng Nghymru mewn ymateb i bandemig coronafeirws.

 

https://llyw.cymru/deddfwriaeth-y-
coronafeirws-chanllawiau-ar-y-gyfraith

Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu

Canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

 

Dolen i'r wybodaeth

Mwy o gymorth wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol

Wrth i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

 

Dolen i'r wybodaeth

Y Gell Cyngor Technegol: crynodeb o gyngor 21 Awst 2020

Crynodeb o gyngor COVID-19 ddarparwyd i Weinidogion Cymru ar 21 Awst 2020.

 

https://llyw.cymru/y-gell-cyngor-
technegol-crynodeb-o-gyngor-21
-awst-2020

Cyngor ar y coronafeirws gan y Gell Cyngor Technegol

Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i bandemig COVID-19 mewn modd sydd ym mudd pennaf pobl Cymru.

 

https://llyw.cymru/cyngor-ar-y-coronafeirws
-gan-y-gell-cyngor-technegol

Cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd

Canllawiau o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

 

https://llyw.cymru/cymryd-pob-mesur-
rhesymol-i-leihaur-risg-o-ddod-i-
gysylltiad-ar-coronafeirws-mewn-
gweithleoedd

 

Coronafeirws (COVID-19): teithwyr sy’n esempt rhag rheolau ffiniau Cymru

Esbonio pwy fydd wedi eu heithrio rhag rheolau ffiniau newydd Cymru a gyflwynwyd o ganlyniad i'r coronafeirws. Bydd y rheolau yn berthnasol i deithwyr i'r DU o 8 Mehefin 2020.

 

https://llyw.cymru/teithwyr-sydd-wedi-eu-
heithrio-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19

Gwneud cais am y Grant ar Gyfer Darparwyr Gofal plant: coronafeirws

Gall darparwyr gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, cylchoedd meithrin, crèches a chlybiau y tu allan i’r ysgol wneud cais am hyd at £5,000 i fynd i’r afael ag incwm a gollwyd rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020.

 

https://llyw.cymru/gwneud-cais-am-y-
grant-ar-gyfer-darparwyr-gofal-plant-
coronafeirws

Care Home Cwtch

Care Home Cwtch: Diogelwch staff gofal – blaenoriaeth ar gyfer diogelwch preswylwyr

 

Bydd y sesiwn Care Home Digital Cwtch nesaf yn digwydd rhwng 2pm a 3.30pm, dydd Mercher, 16 Medi. Bydd y sesiwn yn edrych ar y pwnc ‘diogelwch staff gofal: blaenoriaeth ar gyfer diogelwch preswylwyr’.

 

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost gyda’r ddolen y bydd ei hangen arnoch i ymuno â’r cyfarfod. Edrychwn ymlaen at eich gweld.

 

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn
mynychu, bydd angen i chi gofrestru
cyn y sesiwn gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://zoom.us/meeting/register/tJMrcum
hqjgpGdzbyBDvIpg7yR_7PnCq_yCd

Gofal Cymdeithasol Cymru

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl

hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

https://www.gofalwn.cymru/

 

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 02/09/2020