LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

Bwletin y Coronafeirws – trefniadau newydd

 

Sylwch y bydd y cyhoeddiad wythnos presennol, Coronafeirws (COVID-19): Diweddariad ar gyfer Darparwyr Gofal, yn cael ei gyhoeddi bob pythefnos bellach yn ystod y cyfnod adfer hwn o’r pandemig. Byddwn yn parhau i adolygu amlder bwletinau. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ar: Ddydd Mercher 19 Awst.

 

Arolygaeth Gofal Cymru

Cynllun Adfer AGC

 

Mae AGC wedi rhannu ei chynlluniau adfer, a wnaeth ddod i rym ar 31 Gorffennaf 2020. Mae hyn yn cynnwys newid o system galwadau ‘gwirio’ i alwadau monitro, gyda mwy o ffocws ar sut rydych yn sicrhau diogelwch a llesiant pobl. Bydd y galwadau hyn yn llai aml, ac eithrio pan fydd pryderon yn cael eu codi, er mwyn galluogi’r holl wasanaethau i gael eu monitro.

Gofynnir i ddarparwyr rannu eu hadroddiad adolygu ansawdd gofal dwywaith y flwyddyn. Bydd AGC yn cysylltu â darparwyr gyda manylion pellach.

Gellir gweld manylion llawn y cynllun adfer ar wefan AGC.

Dolen i'r cynllun adfer

 

Llywodraeth Cymru

Taliad gwerth £500 i Weithwyr Gofal Cymdeithasol

 

Mae'r taliad untro yn cael ei wneud i gydnabod a gwobrwyo staff gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal i'n dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain. Nid yw'r staff yn gallu cadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol ac maen nhw'n wynebu perygl uwch oherwydd nifer y bobl y maen nhw'n eu cynorthwyo. Mae'r cynllun yn berthnasol i staff mewn cartrefi gofal cofrestredig a gwasanaethau gofal cartref ac mae'n cynnwys Cynorthwywyr Personol.

Dolen i'r canllawiau

Datganiad Ysgrifenedig: Rhagor o Gyllid ar gyfer Darparwyr Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Mae £22.7 miliwn arall ar gael i helpu darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i dalu'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r pandemig.

Dolen i'r datganiad

Datganiad Ysgrifenedig: Llythyr newydd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru at y rheini sy'n gwarchod a fersiwn hawdd ei darllen o'r llythyr

Mae llythyrau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru at y rheini sy'n gwarchod yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd. Mae'r llythyr hwn yn hysbysu'r unigolion sydd wedi bod yn gwarchod nad oes angen iddynt wneud hynny bellach ar ôl 16 Awst. Mae'r llythyr hefyd yn darparu manylion ynglŷn â'r cymorth a fydd yn parhau i fod ar gael i'r grŵp hwn. Mae fersiwn o’r llythyr sy'n hawdd ei darllen hefyd wedi'i chyhoeddi.

Dolen i'r datganiad

 

Dolen i'r llythyr

 

Canllawiau ar amddiffyn pobl sydd fwyaf tebygol o fynd yn wael iawn o coronafeirws (gwarchod): canllaw hawdd ei ddarllen

Canllaw hawdd ei ddarllen i'ch helpu i fod yn barod i aros gartref ac i arbed coronafeirws rhag lledaenu.

Dolen i'r canllawiau

Profi, olrhain, diogelu: pecyn cymorth ar gyfer cyflogwyr gweithwyr hanfodol

Pecyn cymorth ac asedau i gyflogwyr gweithwyr hanfodol gyfathrebu strategaeth profi, olrhain, diogelu.

Dolen i'r pecyn cymorth

 

Canllawiau ar brofi ac olrhain cysylltiadau i leoliadau gofal plant.

Gwybodaeth am y prawf antigenau (swab) a’r prawf gwrthgyrff (gwaed) ac olrhain cysylltiadau.

Dolen i'r canllawiau

Cynllun gweithredu cartrefi gofal

Mae’r llythyr hwn yn cynnwys y camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi’r sector cartrefi gofal.

Dolen i'r llythyr

Diogelu staff a phlant rhag y coronafeirws mewn gofal plant

Sut i baratoi eich gwasanaeth gofal plant i ganiatáu i fwy o blant fynychu, a'u diogelu nhw a'ch staff rhag y coronafeirws.

Dolen i’r wybodaeth

 

Canllawiau ar gyfer delio gyda phobl sy’n anfodlon neu ddim yn gallu hunanynysu neu ddilyn cyfarwyddiadau cyfyngiadau symud y coronafeirws

Sut mae’n rhaid i awdurdodau lleol a darparwyr llety a gefnogir neu dros dro a hostelau ddelio gyda phobl sy’n anfodlon neu ddim yn gallu hunanynysu neu ddilyn cyfarwyddiadau symud y coronafeirws.

 

Dolen i'r canllawiau

 

Datganiad ar y cyd gan Brif Swyddogion Meddygol y DU: Ymestyn cyfnod hunan-ynysu

Datganiad ar y cyd gan 4 Prif Swyddog Meddygol y DU ar newidiadau i'r cyfnod hunan-ynysu.

Dolen i'r datganiad ar y cyd

 

Adolygiadau 21 diwrnod o fesurau i reoli COVID-19 (adolygiad 24 Gorffennaf): asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb

Asesiad o sut mae ein mesurau i reoli COVID-19 yn effeithio ar gydraddoldeb (adolygiad 24 Gorffennaf).

Dolen i'r asesiad

Teulu a ffrindiau yn ganolog i’r rheoliadau coronafeirws newydd

Daeth rheolau newydd i rym ar ddydd Llun 03 Awst i’w gwneud yn haws i deulu a ffrindiau gwrdd yn yr awyr agored.

 

Dolen i'r rheoliadau

Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

Mae'r Prif Weinidog yn cyhoeddi'r chweched adolygiad o'r rheoliadau.

Mae'r dolenni'n cynnwys y datganiad ysgrifenedig, y rheoliadau diweddaredig a pha newidiadau sydd wedi'u gwneud.

Dolen i'r datganiad

 

Dolen i'r rheoliadau

Dolen i'r rheoliadau

Cau busnesau ac adeiladau: coronafeirws (COVID 19)

Rhestr o fusnesau ac adeiladau nad ydynt yn hanfodol y mae'n rhaid iddynt gau.

Dolen i’r wybodaeth

 

Modelu gwasanaethau adsefydlu COVID-19

Adnodd modelu i helpu gwasanaethau i gynllunio gwasanaethau adsefydlu yn dilyn pandemig y coronafeirws.

Dolen i'r adnodd

Canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill: coronafeirws

Canllawiau ar reoliad 8 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020.

Dolen i'r canllawiau

Canllawiau ar aelwydydd estynedig: coronafeirws

Rheolau a fydd yn berthnasol i fod mewn aelwydydd estynedig a chyngor ar sut i ffurfio un.

Dolen i'r canllawiau

Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin

Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.

Dolen i'r rheoliadau

 

Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)

Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru.

Dolen i’r wybodaeth

 

Canllawiau ar weithio yng nghartrefi pobl eraill

Mae’r ddogfen hon i helpu cyflogwyr, cyflogeion a’r hunan-gyflogedig ac eraill (megis gwirfoddolwyr) sy’n gweithio yn neu ger gartrefi pobl (pan nad yw’r gwaith yn golygu cysylltiad corfforol agos) i ddeall sut i weithio’n ddiogel, gan gymryd camau i leihau y perygl o ddod i gysylltiad â COVID-19.

Dolen i'r canllawiau

Gweithleoedd a mangreoedd: Cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd

Canllawiau o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Dolen i'r canllawiau

Cynnig Gofal Plant Cymru i ailagor

Heddiw, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod Cynnig Gofal Plant Cymru yn mynd i ailagor, gan ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal i rieni plant 3 a 4 oed ledled Cymru sy’n gweithio.

Dolen i'r cyhoeddiad

 

Rhagor o Gyllid ar gyfer Costau Ychwanegol Darparwyr Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn sgil Covid-19

 

  • Mae’r Gweinidogion wedi cyhoeddi £22.7 miliwn o gyllid ychwanegol i helpu darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion â’r costau parhaus sy'n deillio o Covid-19.  
     
  • Mae hyn ar ben y £40 miliwn a ryddhawyd ar ddechrau'r pandemig ac mae'n helpu darparwyr i gynnal eu darpariaeth gofal a'u gallu i weithredu. Mae'r cyllid pellach hwn ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd mis Medi, pan fydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu.
     
  • Mae canllawiau ynglŷn â phwrpas y cyllid hwn, costau cymwys y darparwyr, a’r dull darparu ar gyfer y cyllid, wedi'u cynnwys yn y canllawiau a gyhoeddir ar gyfer y cynllun.   
     
  • Ar hyn o bryd dim ond y costau ychwanegol mewn perthynas â gofal cymdeithasol y mae'r arian hwn yn ei gynnwys. Disgwylir penderfyniad yn fuan ar sut yr ymdrinnir â'r costau ychwanegol ar gyfer gofal iechyd a gofal a gomisiynir ar y cyd.

 Llythyr ar cyllid ychwanegol

 

Support for Adult Social Care guidance

 

 

 

Llinell gymorth  ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Lansio llinell gymorth gan y Samariaid, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Llinell gymorth bwrpasol yw hon ar gyfer gweithwyr y GIG a gweithlu'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r gwasanaeth gwrando pwrpasol yn cynnig cymorth emosiynol ar y ffôn bob dydd rhwng 7.00am a 11.00 pm, ac mae ar gael i bawb, o staff rheng flaen i staff gweinyddol, gan roi cymorth iddynt pan fo arnynt ei angen fwyaf. Bydd llinell Gymraeg ar gael i’r rhai sy’n ceisio cymorth yn Gymraeg rhwng 7 ac 11 y nos.

Poster ar gymorth i'r GiG a Gofal Cymdeithasol

I gael rhagor o adnoddau defnyddiol, ewch i:

https://www.samaritans.org/how-we-can-help/support-and-information/if-youre-having-difficult-time/if-youre-worried-about-your-mental-health-during-coronavirus-outbreak/

COVID-19 adnodd asesu risg y gweithlu: posteri gofal cymdeithasol a gofal iechyd

Mae posteri i egluro'r adnodd asesu risg ar gyfer gweithleoedd bellach ar gael. Argraffwch ac arddangoswch i esbonio'r adnodd i'ch holl staff.

Dolen i'r poster gofal cymdeithasol

 

Dolen i'r poster gofal iechyd

Dolen i'r fidio

Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu

Mae'r adnodd hwn yn eich helpu chi i ystyried eich ffactorau risg personol ar gyfer COVID-19 ac yn argymell sut gallwch aros yn ddiogel. Mae wedi ei gynllunio ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol ond gall gael ei ddefnyddio mewn unrhyw weithle.

Dolen i'r adnodd

Datganiad Ysgrifenedig: Sicrhau bod pobl â symptomau COVID-19 yn ceisio cymorth mewn da bryd

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi cyfres o fesurau i sicrhau bod pobl sydd wedi eu heintio â COVID-19 yn cysylltu â gwasanaethau meddygol mewn da bryd, er mwyn cael y cymorth y mae ei angen arnynt.

Dolen i'r ddatganiad

 

Cyngor ar y coronafeirws gan y Gell Cyngor Technegol

Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i’r pandemig COVID-19 mewn modd sydd er budd pennaf pobl Cymru.

Dolen i'r cyngor

Coronafeirws: cyngor newydd ynglŷn â phryd i geisio cymorth meddygol

Heddiw (dydd Mawrth 4 Awst) mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn annog unrhyw un sy’n hunanynysu gartref gyda COVID-19 i gysylltu ag 111 neu â’u meddyg teulu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod neu os ydynt yn dioddef o ddiffyg anadl neu’n chwydu, neu os yw blinder yn eu hatal rhag gwneud eu gweithgareddau arferol.

Dolen i'r ddatganiad

 

Hunanynysu: canllawiau aros gartref i aelwydydd â coronafeirws posibl

Sut i hunanynysu ac edrych ar ôl eich hun yn y tŷ os oes haint coronafeirws posibl yn eich cartref.

 

Dolen ir' canllawiau

Profi, olrhain, diogelu: crynodeb o'r broses

Beth mae angen i chi ei wneud i helpu i olrhain cysylltiadau er mwyn rheoli lledaeniad y coronafeirws.

Dolen i'r canllawiau

 

Profi, olrhain, diogelu: gwybodaeth amlieithog am y coronafeirws

Gwybodaeth amlieithog am symptomau’r coronafeirws, profi am y coronafeirws ac olrhain cysylltiadau.

Dolen i'r wybodaeth

Cyllideb Sefydlogi Iechyd

Heddiw mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi pecyn sefydlogi newydd gwerth £800m i helpu GIG Cymru i barhau i ymateb i argyfwng y coronafeirws ac adfer o’i effaith.

Dolen i'r cyhoeddiad

Dolen i'r ddatganiad

Gofal Cymdeithasol Cymru

Amser i chi

 

Mae ‘Amser i chi’ yn rhwydwaith cymorth cymheiriaid newydd ar gyfer rheolwyr gwasanaethau gofal cartref yng Nghymru.

Bydd y rhwydwaith yn cwrdd am un awr, bob pythefnos ar Zoom am 12 wythnos. Bydd gwesteiwr annibynnol yn cwrdd â chi a byddwch chi'n ymuno â grwpiau llai lle gallwch chi rannu profiadau, trafod unrhyw faterion y byddwch chi efallai eisiau cyngor arnyn nhw, a rhannu awgrymiadau a syniadau. Bydd y grwpiau hyn yn aros yr un fath dros y 12 wythnos.

Mae'r rhwydwaith hwn wedi'i anelu at y rhai sydd â chymhwyster lefel 4 neu 5 sy'n rhedeg gwasanaethau gofal cartref neu sydd â chyfrifoldeb am reoli staff neu dimau. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a yw hyn ar eich cyfer chi.

Bydd y cyfarfod cyntaf ddydd Iau, 3 Medi am 11.30am. I archebu'ch lle neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch rebecca.cicero@gofalcymdeithasol.cymru neu hannah.williams@gofalcymdeithasol.cymru

 

Porth swyddi Gofalwn Cymru 

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru. 

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl
  • hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn).  

https://www.gofalwn.cymru

 

 

osod blaenoriaethau ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol

Yn ddiweddar, gofynnodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i bobl am eu sylwadau a’u cwestiynau am ofal cymdeithasol a chymorth i bobl hŷn yng Nghymru. Cafodd y rhain eu crynhoi i gwestiynau y gellir eu hateb gan ymchwil.

Yn awr maent eisiau eich cymorth i benderfynu pa gwestiynau sydd fwyaf pwysig.

Cymerwch ran yn yr arolwg os ydych chi’n

  • 65 oed a hŷn ac yn cael gofal neu gymorth
  • gweithiwr proffesiynol, gwirfoddolwr neu aelod o’r teulu sy’n rhoi’r gofal hwnnw. 

Does dim angen ichi wybod am waith ymchwil – maent eisiau eich barn yn seiliedig ar eich profiad chi.

Ni fydd ond yn cymryd 10 munud i’w gwblhau ac mae ar gael rhwng 29 Gorffennaf a 24 Awst 2020.

Mae eich barn yn bwysig!

Dolen i'r arolwg

 

Gweithdy – Beth yw’r ffordd orau i ni ddarparu gofal a chymorth cynaliadwy i helpu pobl hŷn i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus?

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal gweithdy brynhawn 16eg / bore 17 Medi i gwblhau eu 10 rhestr orau o gwestiynau ymchwil. Gall ymarferwyr gofal cymdeithasol gofrestru buddiant trwy e-bostio healthandcareresearch@wales.nhs.uk

erbyn 20 Awst 2020.

 

Llywodraeth y DU

Tell Us Once – adrodd marwolaeth o COVID-19

Mae gwasanaeth Tell Us Once Llywodraeth y DU yn galluogi dinasyddion i rannu manylion unigolyn sydd wedi marw gydag adrannau perthnasol y llywodraeth, gan gael gwared ar yr angen i ymgysylltu â phob un ar wahân a darparu nifer o gopïau o'r dystysgrif marwolaeth. Gall Tell Us Once hysbysu nifer o sefydliadau gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol oedolion.

Saesneg yn unig

 

Dolen i wybodaeth am Tell Us Once

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 05/08/2020