LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.
Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Pwnc | Manylion | Dolenni |
Llywodraeth Cymru | ||
Helpu pobl i wella o COVID-19 (COVID hir) | Mae’r term COVID hir yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio arwyddion a symptomau sy'n parhau neu'n datblygu ar ôl COVID-19. | |
Canllawiau ar bartïon plant a phobl ifanc: coronafeirws | Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n trefnu neu gynnal parti i blant. | Canllawiau ar bartïon plant a phobl ifanc: coronafeirws | LLYW.CYMRU |
Llwybr Cymunedol Cymru Gyfan ar gyfer COVID Hir | Fframwaith i fyrddau iechyd i sicrhau dull cyson wrth ddatblygu llwybrau lleol ar gyfer COVID hir. | Llwybr Cymunedol Cymru Gyfan ar gyfer COVID Hir | LLYW.CYMRU |
Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y camau i symud yn raddol i lefel rhybudd 1 | Heddiw, mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan y camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1, megis atyniadau dan do a lleoliadau priodas, yn cael gwerth £2.5m o gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru. | |
Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau | Sut i gael profion llif unffordd COVID-19 rheolaidd er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu. | Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau | LLYW.CYMRU |
Adolygiad o gyfyngiadau’r coronafeirws 22 Ebrill 2021: crynodeb o’r asesaiad o’r effaith | Asesiad effaith o’r mesurau I reoli COVID-19. | |
Canolfannau Covid yng Ngogledd Cymru yn cynnig cymorth i’r rhai sydd wedi’u taro waethaf | Mae canolfannau sy'n cynnig cymorth cyfannol i bobl y mae angen iddynt hunanynysu ac i'r rhai sy'n cael eu taro waethaf gan y pandemig yn cael eu cyflwyno mewn cynllun peilot ar draws pum ardal yng Ngogledd Cymru. | |
Creu digwyddiadau COVID-effro | Canllawiau i drefnwyr digwyddiadau crynoadau rheoledig yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). | |
Canllawiau byw â chymorth: coronafeirws | Sut gall pobl sy’n byw â chymorth weld eu teulu a’u ffrindiau a chadw’n saff gyda’u gweithwyr cymorth a gofal | |
Rhaglen Cymorth i Weithwyr | Mae'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr wedi bod ar waith ers 4 Rhagfyr 2020, gan gynnig ystod o gymorth llesiant i'r rhai sydd wedi'u cyflogi yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn y sectorau preifat a gwirfoddol yng Nghymru. | Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru |
Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru | ||
Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru Gwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2021
| Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae gofal iechyd wedi wynebu un o'r cyfnodau mwyaf heriol mewn hanes, ac mae Gwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn ôl i ddangos pa mor werthfawr yw'r cyfraniad nyrsio o fewn gofal iechyd yng Nghymru. Mae ein gwobrau'n cydnabod yr ymdrechion, yr ymrwymiad a'r cyflawniadau eithriadol sydd wedi cael eu gwneud gan y gymuned nyrsio gyfan.
Ydych chi'n adnabod Nyrs y Flwyddyn nesaf Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2021? Os felly, dathlwch eu cyflawniad a rhannwch eu stori, a rhoi'r ydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu iddynt. Gallwch lenwi ffurflen enwebu ar-lein drwy wefan RCN Cymru: www.rcn.org.uk/wales/get-involved/awards Y Dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 30 Mehefin 2021 Am fwy o fanylion, gwelwch y taflenni gwybodaeth atodedig. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich ceisiadau - POB LWC! #WalesNOTY2021 |