LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Pwnc

Manylion

Dolenni

Llywodraeth Cymru

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Gyflawni’r Strategaeth Frechu COVID-19

Datganiad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething ar hynt y rhaglen frechu, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio AstraZeneka.

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddariad-ar-gyflawnir-strategaeth-frechu-covid-19-1

Cynllun cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol

Telir taliadau o £ 735 i weithwyr gofal cymdeithasol cymwys dros yr ychydig fisoedd nesaf.

 

Rhaid i chi lenwi ffurflen hawlio i dderbyn y taliad - ar gael gan eich cyflogwr.

Mae'r taliadau i gydnabod ymrwymiad a chyfraniad gweithwyr gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig

Canllawiau i weithwyr gofal cymdeithasol

Cynllun cydnabyddiaeth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol: canllawiau i weithwyr gofal cymdeithasol [HTML] | LLYW.CYMRU

Diogelu plant mewn lleoliadau gofal plant

Gwybodaeth a chanllawiau ategol i helpu darparwyr gofal plant a rhieni i ddiogelu plant.

Diogelu plant mewn lleoliadau gofal plant | LLYW.CYMRU

Canllawiau gwasanaethau gwaith ieuenctid: coronafeirws

Arweiniad ar sut i gynyddu gweithrediadau gwasanaethau ieuenctid yn ddiogel.

Canllawiau gwasanaethau gwaith ieuenctid: coronafeirws | LLYW.CYMRU

Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau

Sut i gael profion llif unffordd COVID-19 rheolaidd er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu.

Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau | LLYW.CYMRU

Ymweld á chartrefi gofal: canllawiau i ymwelwyr

Beth sydd angen i ymwelwyr á chartrefi gofal wneud i sicrhau diogelwch trigolion a staff cartrefi gofal.

Ymweld á chartrefi gofal: canllawiau i ymwelwyr | LLYW.CYMRU

Cyfrifoldebau staff gofal cymdeithasol a COVID-19: canllawiau

Beth sydd angen i staff gofal cymdeithasol wneud i’w hamddiffyn eu hunain a’r rheiny y maent yn gofalu amdanynt.

Cyfrifoldebau staff gofal cymdeithasol a COVID-19: canllawiau | LLYW.CYMRU

Fframwaith clinigol cenedlaethol: system ddysgu iechyd a gofal

Canllawiau ar sut i gynllunio ar gyfer a darparu gwasanaethau clinigol cenedlaethol.

Fframwaith clinigol cenedlaethol: system ddysgu iechyd a gofal | LLYW.CYMRU

Canllawiau byw â chymorth: coronafeirws

Sut gall pobl sy’n byw â chymorth weld eu teulu a’u ffrindiau a chadw’n saff gyda’u gweithwyr cymorth a gofal

Canllawiau byw â chymorth: coronafeirws | LLYW.CYMRU

Hunanynysu

 

Sut a phryd mae angen i chi a’ch aelwyd hunanynysu os oes gennych chi symptomau, os ydych chi wedi cael canlyniad positif, neu os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â COVID-19.

Hunanynysu | LLYW.CYMRU

Canllawiau ar angladdau: COVID-19

Canllawiau ar gynnal a mynychu angladdau yn ystod y pandemig coronafirus.

Canllawiau ar angladdau: COVID-19 | LLYW.CYMRU

Gadael eich cartref a gweld pobl eraill: lefel rhybudd 3

Rheolau ar gyfarfod pobl tu allan i'ch cartref ar lefel rhybudd 3.

Gadael eich cartref a gweld pobl eraill: lefel rhybudd 3 | LLYW.CYMRU

Canllawiau ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil: derbyniadau a digwyddiadau dathlu

Sut y dylai lleoliadau sy’n cynnal derbyniadau priodasau a phartneriaethau sifil weithredu yn ystod pandemig COVID-19.

Canllawiau ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil: derbyniadau a digwyddiadau dathlu | LLYW.CYMRU

Ymweld â phobl mewn cartrefi preifat: lefel rhybudd 3

Rheolau pan fyddwch mewn swigen gefnogaeth a phryd rydych yn cael gweld pobl eraill yn eu cartrefi nhw a’ch cartref chi (lefel rhybudd 3).

Ymweld â phobl mewn cartrefi preifat: lefel rhybudd 3 | LLYW.CYMRU

Cynnig Cymorth y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd i'r Sector Gofal Cymdeithasol gan Newfields Law

Mae Newfields Law wedi cynnig y canlynol i ddarparwyr gofal cymdeithasol mewn perthynas â'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd:

  • 'Clinig cynghori' i staff lle mae cynrychiolydd o'r adran Adnoddau Dynol yn trefnu slotiau amser mewn diwrnod sydd wedi'i drefnu i staff ymuno â galwad gyda ni yn Newfields. Bydd slot amser o 20 i 30 munud i drafod unrhyw ymholiadau sydd ganddynt am y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu cyngor penodol i unigolion ac anfon cyngor pellach yn dilyn y sesiwn. Yna, os oedd angen cefnogaeth bellach arnynt gyda'r cais, mae'r cyswllt eisoes wedi cael ei greu felly bydd modd i ni barhau i'w cynorthwyo. Mae hwn wedi bod yn adnodd effeithiol iawn sydd wedi cael ei ddefnyddio nifer o weithiau ar gyfer Prifysgol Caerdydd.
     
  • Gellir targedu'r weminarau at y rhai sy'n gwneud cais i'r cynllun a/neu staff Adnoddau Dynol. Gall y weminar hon gynnwys gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, rheolau mewnfudo, fisa ar gyfer gweithiwr medrus, fisa ar gyfer gofal iechyd a gwybodaeth gyffredinol am ganiatâd amhenodol i aros (os oes angen). Gallwn hefyd gynnig gweminar i nifer o dimau ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi ei theilwr

Cyswllt: Alicia Percival

02921 690049

Alicia@newfieldslaw.com

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Helpwch ni i gael y cerdyn newydd, y Cerdyn Gweithiwr Gofal, i weithwyr nad ydynt ar ein Cofrestr

 

Efallai y gwyddoch fod y Cerdyn Gweithiwr Gofal yn fersiwn newydd o gerdyn a lansiom yn wreiddiol fis Ebrill diwethaf i gydnabod bod gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn weithwyr allweddol, ac i gynnig rhai buddion, fel trefniadau siopa blaenoriaethol. Mae'r cerdyn hwnnw'n gorffen bod yn ddilys o 1 Mai 2021.

 

Yn yr un modd â’r cerdyn gwreiddiol, mae’r Cerdyn Gweithiwr Gofal newydd i bawb sy’n cael ei gyflogi mewn rôl ofal yng Nghymru, nid dim ond y rheiny ar ein Cofrestr.

 

Byddem yn ddiolchgar am eich cymorth i roi gwybod bod y Cerdyn Gweithiwr Gofal ar gael i weithwyr yn eich sefydliad, neu trwy wasanaethau wedi’u comisiynu, nad ydynt ar ein Cofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol. Gallai’r rhain gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • weithwyr cymorth gofal cymdeithasol
  • gweithwyr cymorth cysylltu bywydau
  • gofalwyr maeth
  • cynorthwywyr personol

Gall gweithwyr gael y Cerdyn Gweithiwr Gofal digidol trwy gofrestru yma.

Ni ddylai unrhyw un arall ddefnyddio’r cerdyn hwn. Dylai pob deiliad cerdyn fod yn barod i ddefnyddio’r cerdyn hwn ochr yn ochr â math o wybodaeth adnabod â llun, fel trwydded yrru neu gerdyn y gweithle. Bydd hyn yn caniatáu i sefydliadau wirio pwy yw’r unigolyn, os bydd angen.

Mae Cerdyn Gweithiwr Gofal yn wahanol i’r cerdyn gwreiddiol gan ei fod yn cynnig mynediad at gerdyn arian yn ôl, yn ogystal ag amrywiaeth o gynigion manwerthu, trwy Discounts for Carers.

Gall deiliaid Cerdyn Gweithiwr Gofal ei ddefnyddio’n dystiolaeth o’u cyflogaeth yn y sector gofal yng Nghymru os penderfynant wneud cais am gerdyn arian-yn-ôl gan Discounts for Carers. Mae gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y cynigion sydd ar gael yn y Cwestiynau Cyffredin.

Rydym wedi cysylltu â Discounts for Carers oherwydd bod deiliaid cerdyn wedi dweud wrthym mewn arolwg yr hydref diwethaf mai’r buddion ychwanegol y byddent yn eu gwerthfawrogi fwyaf fyddai cynigion manwerthol.

Credwn yn gryf fod pawb sy’n gweithio mewn gofal yng Nghymru’n haeddu mwynhau buddion tebyg i weithwyr allweddol mewn proffesiynau eraill, fel y gwasanaethau brys ac iechyd, ni waeth beth yw maint y sefydliad sy’n eu cyflogi.

Ond nid dim ond cerdyn i’r pandemig yw hwn. Mae’n rhywbeth mwy hirdymor. Mae’n adlewyrchu’r ffaith bod ein gweithwyr gofal yn weithwyr allweddol sy’n cyflawni rôl hanfodol wrth gefnogi pobl ym mhob cymuned yng Nghymru 24/7, o flwyddyn i flwyddyn, nid dim ond mewn argyfwng fel y pandemig.

Ynghyd â’r cerdyn arain yn ôl a chynigion manwerthol, bydd trefniadau siopa blaenoriaethol mewn archfarchnadoedd penodol ar gael i ddeiliaid cerdyn, lle bo’r trefniadau hynny ar waith o hyd. Hefyd, byddwn yn parhau i roi gwybod i ddeiliaid cerdyn am unrhyw adnoddau, fel apiau symudol, y gallant eu defnyddio i helpu i gynnal eu lles corfforol a meddyliol yn ystod ac ar ôl y pandemig hwn.

Er bod y cerdyn newydd ar gael ar ffurf fersiwn ddigidol yn unig, gall pobl heb ffôn clyfar gael yr un buddion os oes ganddynt gyfeiriad e-bost a chysylltiad â’r rhyngrwyd. Caiff hyn ei esbonio yn y Cwestiynau Cyffredin.

  • Awdur: Rachel Pitman ADSS Cymru
  • Dyddiad: 12/05/2021