Yr wythnos hon, fe gymerodd Llywodraeth Cymru'r cam nesaf tuag at ddiogelu hawliau plant drwy gyflwyno deddfwriaeth i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol.

Rhoddwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ac, os caiff ei basio, ni fydd rhieni ac oedolion eraill sy'n gweithredu fel rhieni yn gallu cosbi plant yn gorfforol yn gyfreithiol mwyach – yn olygu bydd gan blant yr un amddiffyniad rhag cosb gorfforol ag oedolion.

Bydd y Bil yn gwneud hyn drwy ddiddymu'r amddiffyniad yn y gyfraith gyffredin ar gyfer cosb resymol fel na all unrhyw oedolyn sy'n gweithredu yn lle rhiant ei ddefnyddio fel amddiffyniad os caiff ei gyhuddo o ymosod neu guro plenty.

Mae hyn yn seiliedig ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

"Rydyn ni'n anfon neges glir nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru.

"Nid yw'r hyn oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn y gorffennol yn dderbyniol mwyach. Rhaid i'n plant ni deimlo eu bod yn ddiogel a'u bod yn cael eu trin ag urddas.

"Fel un o'r gwledydd mwyaf blaengar yn y pryd o safbwynt hyrwyddo hawliau plant, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn deddfu i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru, gan hyrwyddo ymhellach hawliau plant.

"Wrth i'r gymuned ryngwladol nodi 30 mlynedd ers cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn eleni, mae'n briodol fod Cymru yn cymryd y cam sylweddol hwn i fynegi ymrwymiad ein gwlad i ddiogelu hawliau plant.”

Caiff y ddeddfwriaeth ei hategu gan ymgyrch codi ymwybyddiaeth a chymorth i rieni. Y nod yw helpu i ddiddymu'r defnydd a wneir o gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru a'r goddefgarwch sydd i hynny.

Yn ymateb i gyflwyniad y ddeddfwriaeth yr wythnos hon, dwedodd prif swyddog grwp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan ADSS Cymru, Marian Parry Hughes:

"Rydym yn cydnabod bod hwn yn fater emosiynol, sy'n codi teimladau cryf.

"Mae pobl resymol yn anghytuno a yw, fel mater o farn wleidyddol, yn iawn neu'n ddoeth defnyddio'r gyfraith droseddol i wahardd smacio plant.

"Fodd bynnag, mae'n amlwg bod consensws cyffredinol wedi dod i'r amlwg ar draws y rhaniad gwleidyddol bod y cymal sy'n cyfyngu ar gwmpas yr amddiffyniad 'cosb resymol' yn Neddf Plant 2004, yn gofyn am newid er mwyn sicrhau bod cydymffurfiad llwyr, mewn egwyddor ac mewn ysbryd, i’r rhwymedigaethau a osodir ar bob deddfwrfa yn y DU o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

"Deddfwriaeth yw dim ond un o'r camau gweithredu eang y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd, ar y cyd â'i phartneriaid mewn llywodraeth leol, i gefnogi rhieni i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'w plant.

"Fel y sefydliad sy'n cynrychioli arweinwyr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, mae aelodau ADSS Cymru yn eirioli, bob dydd, yr angen am ymyriadau ataliol neu wedi'u targedu i gynorthwyo teuluoedd y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt i weithredu technegau rhianta cadarnhaol.

"Credwn fod yr ymyriadau cefnogol hyn wedi galluogi newid mewn diwylliant ac wedi caniatáu i deuluoedd o'r fath ddatblygu'r hyder a'r wybodaeth i reoli ymddygiad anodd plant mewn ffordd reoledig heb droi at gosb gorfforol."

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 26/03/2019