Mae BASW Cymru yn hynod o falch o allu cyhoeddi y byddem yn llywio  ‘AmodauGwaith a Phecyn Gwaith Llesiant Gweithwyr Cymdeithasol’ gyda Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe. Mae trafodaethau eisoes yn cael eu cynnal i ymestyn y  peilot i weithlu  gwasanaethau oedolion hefyd.

Daeth y gwahoddiad i gyflwyno’r Pecyn Gwaith Llesiant i’r uwch timau rheoli yn Abertawe o ganlyniad i sgwrs gyda Dave Howes - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ystod Cynhadledd Genedlaethol Gwasanaeth Gofal yn 2019 - digwyddiad blynyddol sy’n dod a budd-ddeiliaid allweddol o bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru at ei gilydd.

Roedd gan Dave Howes diddordeb yn y cysyniad o Becyn Gwaith Llesiant oedd yn cael ei ddatblygu o waith ymchwil empirig, yn benodol i waith cymdeithasol, a sut byddai’r pecyn yn gallu hyrwyddo a chefnogi strategaeth lleisiant Abertawe ei hun. Mae’r gwahoddiad yn dystiolaeth i ymrwymiad awdurdod lleol Abertawe i lesiant a hydwythedd ei gweithlu ac fe groesawir y parodrwydd i gydweithio gyda’r Gymdeithas yn gynnes iawn. 

Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd cadarnhaol rhwng BASW Cymru ac arweinwyr llesiant yn Abertawe, yn enwedig gyda Teresa Mylan-Rees - Prif Swyddog, a Paige Curtis Swyddog Datblygu Busnes. Ein gobaith pennaf oedd ddechrau’r peilot yn gynharach eleni ond daeth Covid-19 i ddrysu’r trefniadau. Fodd bynnag, parhawyd i fod mewn cysylltiad, a daeth y cyfarfodydd hyn i ben gyda chyflwyniad, o bellter, yr wythnos hon i uwch tîm rheoli Abertawe, yn cynwys Julie Thomas - Pennaeth Gwasanaethau Plant, pryd y seliwyd cytundeb terfynol i lansio’r peilot.     

Bydd y peilot yn cynnwys integreiddio’r pecyn gwaith gyda strategaeth llesiant Plant a Theuluoedd Abertawe efo mintai ddewisol o’r staff, gan ddechrau gyda chyfres o sesiynau yn seiliedig ar gryfderau.  Yn  dilyn hyn, bydd BASW Cymru yn gweithio gydag Abertawe i ddatblygu cynllun gwaith i integreiddio’r pecyn gwaith, a  bydd hwn yn cael ei adolygu pob 3, 6 a 12 mis. Fe ysgrifennir adroddiad terfynol ar sut mor effeithlon yw’r Pecyn Gwaith Llesiant wrth gefnogi llesiant y gweithlu, ac fe gyflwynir hwn i David Howes a’r uwch tîm rheoli.  

Fel rhan o’r cydweithio hwn, byddwn hefyd mewn partneriaeth a Nick Andrews, aelod o BASW o Ysgol Cymru ar Ymchwil i Ofal Cymdeithasol. Mae ef hefyd yn arwain rhaglen ‘Datblygu Tystiolaeth ar Gyfoethogi Ymarferiad’ ardrawsCymru sy’n cael ei ariannu ganLywodraeth Cymru. Mae Siân Jones - myfyrwraig PhD sydd hefyd yn aelod o BASW, o Brifysgol Abertawe yn gwneud gwaith ymchwil ar drawma empathig ar weithwyr cymdeithasol.

Mae hon yn brosiect cyffrous iawn ac yn wirioneddol gydweithredol ac rydym yn anfon  ein diolchiadau diffuant i Dave Howes am y sgwrs bwysig cyntaf hwnnw, am eich chwilfrydedd, croeso a’ch ymrwymiad i lesiant eich gweithlu; rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda chi!

 

Dwedodd Dave Howes, aelod grwp arweinyddiaeth ADSS Cymru a Cyfarwyddwr Gwasanethau Cymdeithasol dros Abertawe:

“Os ydym am gyflawni ein huchelgais o fod y gorau y gallem fod i blant a theuluoedd Abertawe, ni fu erioed adeg mor eglur na rŵan i ni orfod edrych ar ôl ein hunain ac ein gilydd. Mae’r strategaeth llesiant gwasanaethau plant a theuluoedd yn rhan  hollbwysig i sicrhau ein bod yn gwneud yr union hynny. 

Mae’n hyfryd gwybod bod BASW Cymru wedi gweithio gyda ni i ymgryfhau’r strategaeth trwy integreiddio Amodau Gwaith Gweithwyr Cymdeithasol gyda’r Pecyn Gwaith Llesiant. Rwy’n hynod o ddiolchgar i Allison a’i chydweithwyr yn BASW am droi sgwrs yng nghynhadledd ADSS i fod yn brosiect pendant a does dim amheuaeth gennyf cawn brawf o effaith cadarnhaol a buddiol. Rwy’n llawn ddisgwyl bydd y trafodaethau rhwng BASW Cymru a’n cydweithwyr yng ngwasanaethau oedolion yn arwain at gydweithio  cyffrous o’r un fath.

Edrychaf ymlaen at glywed am yr hyn a ddysgwyd o’r prosiect. Diolch i bawb o fewn y Gyfarwyddiaeth, BASW Cymru. Ysgol Cymru ar Ymchwil i Ofal Cymdeithasol a Phrifysgol Abertawe am yr holl waith caled parhaus. 

I derfynu, hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr yng ngwasanaethau plant am barhau i fod y gorau gallwch fod pob tro byddwch yn cnocio ar ddrws  rhywun. Cadwch yn ddiogel ac yn iach”

 

Dwedodd Julie Thomas, Aelod grwp AWHOCS ADSS Cymru a Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Rydym ni yng Ngwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe mewn cyfnod gwirioneddol gyffrous iawn yn nhermau ein Strategaeth Llesiant ac Ymrwymo. Bydd yn bleser i ni, yn y cam nesaf, i gael ymuno a BASW wrth iddynt lansio eu hamodau gwaith newydd a’u pecyn gwaith llesiant, ac i ni fod yr Awdurdod Lleol cyntaf i fod yn beilot, gan ymestyn ein cynnig o gymorth i’n  staff. Rydym yn ddiolchgar i BASW am y cyfle gwych hwn”.

 

  • Awdur: BASW Cymru
  • Dyddiad: 09/07/2020