Defnyddio profiad byw i gyflwyno newid recriwtio a datblygiad gyrfa.

Mae ADSS Cymru wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Bwriad y gwaith yw sicrhau nad yw pobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn profi rhwystrau o ran cyflogaeth neu yrfa mewn gofal cymdeithasol. 

Defnyddiwyd arolwg ar-lein yn gynharach eleni i edrych ar hiliaeth yn y gweithlu. Gyda chymorth cydweithwyr mewn awdurdodau lleol ac eraill yn y sector, denodd 500 o ymatebion, gan roi adborth sylweddol a fydd yn goleuo newid.

Mae’r tudalen we hon yn cyhoeddi lansio arolwg pellach i edrych ar brofiad staff sydd â chefndir lleiafrifol ethnig gyda recriwtio, datblygiad gyrfa a materion cysylltiedig.

Mae’r arolwg hwn hefyd yn adlewyrchu dull ar y cyd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, sy’n gweithio i wella cyfleoedd arweinyddiaeth a chefnogaeth i staff â chefndiroedd lleiafrifol ethnig. Yn lle arolwg ar wahân ar yr un pryd, mae cwestiynau ar arweinyddiaeth a chefnogaeth wedi eu cynnwys yn yr arolwg yma. 

Mae taflen ffeithiau gyda'r wybodaeth hon ar gael i'w lawrlwytho i'r dde.



Pwy all rhoi eu barn? 

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan gyn-aelodau ac aelodau presennol y gweithlu sydd â chefndir lleiafrifol ethnig, p’un ai ydyn nhw wedi eu cyflogi gan awdurdod lleol, darparwr annibynnol neu drydydd sector. Mae barn staff parhaol, dros dro ac asiantaethau, ar unrhyw lefel ac mewn unrhyw rôl, yn bwysig. Mae’r arolwg yn gyfle i rannu barn am brofiadau mewn ffordd gwbl ddienw. 

Mae’r arolwg hefyd ar agor i unrhyw aelodau eraill o’r gweithlu gofal cymdeithasol sydd am wneud sylwadau o’u safbwynt nhw. Gall hyn gynnwys, ond hefyd fod yn gyfyngedig i, staff AD a thimau eraill sy’n chwarae rhan wrth reoli a datblygu’r gweithlu. 



Sut allwch chi roi eich barn yn ddienw ac yn gyfrinachol? 

Gallwch rannu eich profiad trwy arolwg ar-lein cwbl ddienw gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://forms.office.com/e/33PmakpfZJ 

Gallwch drefnu sgwrs 1:1 gyfrinachol gydag aelod o dîm ein prosiect, mae gan rai ohonyn nhw gefndir lleiafrifol ethnig. Gellir trefnu’r sgwrs ar adeg ac mewn ffordd sy’n gyfleus i chi. Danfonwch e-bost at Humie Webbe: Humie.webbe@adss.cymru  Bydd Humie’n falch o ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â chael sgwrs gyfrinachol. 



Lledaenwch y gair 

Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw beth y gallwch wneud i ddweud wrth eraill am y cyfle yma i roi eu barn. Mae hyn yn cynnwys pobl yr ydych yn gweithio â nhw ar hyn o bryd a chyn-gydweithwyr yn eich sefydliad, ac unrhyw un sy’n gweithio i ddarparwyr yn y sector annibynnol a’r trydydd sector.  



Ymholiadau 

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am y prosiect neu’r arolwg ar-lein, cysylltwch os gwelwch yn dda â Nicki Harrison nicki@practicesolutions-ltd.co.uk neu Ceri Breeze ceri@practicesolutions-ltd.co.uk 

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 28/03/2024