Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru yw’r sefydliad arweinyddiaeth proffesiynol a  strategol cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Rydym yn sefydliad aelodaeth, yn cynrychioli pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. 

Mae yna alw sylweddol iawn am wasanaethau gofal ledled y sir ar hyn o bryd a disgwylir y bydd y sefyllfa’n mynd yn fwy anodd ei rheoli wrth i ni symud ymhellach trwy’r gaeaf.

Mae teuluoedd sydd yn y sefyllfa yma’n cael eu hannog i helpu i gefnogi eu perthnasau i ddychwelyd o’r ysbyty ar gyfer yr ŵyl, fel nad ydyn nhw’n treulio mwy o amser yn yr ysbyty nag sydd angen.

Dywedodd Llywydd ADSS Cymru, Jonathan Griffiths: "Rydym yn gwybod bod oedi eisoes wrth ddarparu gwasanaethau gofal i bobl sydd eu hangen ym mhob rhan o Gymru, ac rydym yn gwybod y gallai hyn effeithio ar les, gan arwain o bosibl at fod pobl yn datblygu cynnydd yn eu hanghenion gofal a chefnogaeth.

"Ar hyn o bryd, mae’n gynyddol anodd medru trosglwyddo pobl o’r ysbyty i’w cartrefi pan fyddan nhw’n ddigon iach ac yn barod i adael. Mae hyn yn creu prinder sylweddol mewn gwelyau ac mae’n rhai i ambiwlansys aros wrth "ddrws ffrynt" ysbytai o ganlyniad.  Mae hyn yn golygu nad yw parafeddygon yn gallu ymateb mor gyflym ag arfer i alwadau 999 eraill yn y gymuned.

"Mae Awdurdodau Lleol yn gwneud pob dim y gallan nhw i gefnogi pobl i ddychwelyd adref o’r ysbyty mor gyflym â phosibl, sy’n cynnwys cynyddu niferoedd staff er mwyn deall beth sydd angen ar bobl i ddychwelyd adref yn ddiogel.  Rydym yn cydnabod y gefnogaeth amhrisiadwy sy’n cael ei rhoi eisoes gan ofalwyr di-dâl a theuluoedd i’w hanwyliaid.

Serch hynny, ar hyn o bryd does dim digon o staff gofal sy’n gweithio mewn cartrefi i ddiwallu’r galw, felly rydym yn gweithio hefyd i gynnig ffurfiau eraill o gefnogaeth ble bynnag y gallwn fel cam yn y tymor byr. Mae’r sefyllfa ddigyffelyb yma’n gofyn ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, ac mae’r bartneriaeth honno’n cynnwys teuluoedd y rheiny sydd mewn ysbytai ar hyn o bryd.

"Os oes gennych chi berthynas neu rywun agos atoch mewn ysbyty sy’n ddigon da i fynd adref ond sy’n aros i gael eu gollwng gyda gofal cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai gallwch chi helpu i’w cael nhw yn ôl adref yn gyflymach os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa o fedru eu cefnogi gartref ac yn teimlo’n hyderus yn hynny o beth.  Siaradwch os gwelwch yn dda â’r staff ar y ward neu staff gofal cymdeithasol yn yr ysbyty os yw hyn yn rhywbeth y gallwch chi helpu ag e."

"Efallai byddwn hefyd yn cynnig i’ch perthnasau neu anwyliaid aros am gyfnod byr mewn cartref preswyl neu nyrsio tra ein bod ni’n cael hyd i’r cymorth angenrheidiol yn eu cartref. Rydym yn gwybod nad yw hyn bob amser yn opsiwn delfrydol ond mae treulio cyn lleied o amser â phosibl yn yr ysbyty yn well i ni i gyd, ac yn lleihau’r posibilrwydd o ddal haint yn yr ysbyty a cholli annibyniaeth.  Mae angen arnom ni hefyd i wneud pob dim gallwn ni i ryddhau gwelyau mewn ysbytai ar gyfer y rheiny ag anghenion gofal brys.

"Bydd eich cymorth nid yn unig yn helpu eich anwyliaid, bydd yn mynd ffordd bell hefyd at gefnogi’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol," ychwanegodd Jonathan.

 

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 22/12/2021