ADSS Cymru wedi cyhoeddi'r Adroddiad Dichonoldeb Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru: Creu Model Masnachfraint / Cydweithredol Cenedlaethol o Ofal Cartref i Gymru.

Deilliodd y prosiect hwn o'r angen i archwilio ymagwedd amgen radical at ofal cartref, sydd mewn argyfwng. Ar hyn o bryd, mae Cymru’n brin o tua 5,000 o weithwyr gofal cartref. Mae hyn yn cyfateb i fwy na 4 miliwn o oriau gofal nad ydynt yn cael eu darparu bob blwyddyn.

Mae darparwyr a staff yn gadael y sector; er bod eraill yn ymuno, rydym yn colli gallu a phrofiad. Yn ogystal â’r heriau presennol hyn, derbynnir hefyd bod yn rhaid inni wneud newidiadau trawsnewidiol yn awr os yw’r sector i ffynnu a diwallu anghenion ein poblogaeth sy’n heneiddio.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth i brofi dichonoldeb model masnachfraint cenedlaethol ar gyfer gofal cartref, a fyddai’n: 

  • Mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw staff ym maes gofal cartref. 
  • Darparu mynediad fforddiadwy i gymorth “swyddfa gefn” sector-benodol i ddarparwyr gofal cartref er mwyn gwella’u heffeithiolrwydd a chynaliadwyedd, gan ganiatáu i arian gael ei ail-fuddsoddi yn nhelerau ac amodau staff rheng flaen.  
  • Darparu mecanwaith lle gall marchnad gymysg o fusnesau, cyrff trydydd sector, cwmnïau cydweithredol a micro-ddarparwyr weithio ar y cyd â chomisiynwyr awdurdodau lleol a’r GIG a gwasanaethau mewnol, i ddatblygu a gweithredu model cenedlaethol. 
  • Cefnogi safonau ac atebolrwydd clir a thryloyw a allai arwain at welliannau mewn ansawdd a hwyluso’r broses o drawsnewid modelau gofal a nodir ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru: Ailgydbwyso gofal a chymorth.

Ar hyn o bryd mae ADSS Cymru yn ystyried sut y gellir datblygu'r darn hwn o waith gwerthfawr ymhellach yng Nghymru. Mae'r adroddiad ar gael i'w lawrlwytho yma.

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 13/03/2024