Mae ADSS Cymru, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Solace Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi cyhoeddi papur newydd o’r enw Gweledigaeth ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r papur yn canolbwyntio ar weledigaeth hirdymor gofal cymdeithasol ar gyfer llywodraeth leol. Ei nod yw nodi'r ffordd orau i ni ddarparu systemau iechyd a gofal cymdeithasol sydd ei integreiddio mewn i gymunedau lleol a nodi elfennau gorau'r ddwy system a datblygu trefniadau mwy integredig yn y gymuned.
 
Gallai’r newid hwn mewn ymarfer sicrhau manteision gwirioneddol o ran ysgogi integreiddio ac effeithlonrwydd gwir, gyda ffocws ar atal, cefnogi llesiant a chyflawni canlyniadau.

Mae’r papur ar gael isod yn y Gymraeg a’r Saesneg.

A Vision for Social Care in Wales
Lawrlwytho
  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 24/10/2023