Ledled Cymru, mae yna wahaniaethau o ran sut y mae cymorth meddyginiaethau yn y cartref yn cael ei ddarparu yn ardaloedd y saith Bwrdd Iechyd a'r 22 o Awdurdodau Lleol. Darperir y cymorth gan Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd, a hynny naill ai trwy ddefnyddio eu staff eu hunain neu drwy asiantaethau a gomisiynwyd. Mae mwyafrif y byrddau iechyd wrthi'n gweithio gyda'u Hawdurdodau Lleol priodol i adolygu eu polisïau a'u cymorth presennol, ochr yn ochr â sut y mae'r cymorth yn cael ei ddarparu. Ynghyd â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014), Cymru Iachach1 a Chanllaw 67 NICE (2017)2, mae hyn yn gyfle delfrydol i ddatblygu egwyddorion arweiniol cenedlaethol mewn perthynas â chymorth meddyginiaethau yn y cartref.


Datblygwyd yr egwyddorion hyn mewn partneriaeth â Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion Cymru Gyfan (AWASH) a GIG Cymru i ddarparu templed ar gyfer datblygu polisïau meddyginiaethau fel bod cymorth meddyginiaethau yn cael ei ddarparu mewn ffordd gyson ledled Cymru.


Cefnogir y gwaith hwn a'i gymeradwyo yn arfer da gan y sefydliadau canlynol:

  • Arolygaeth Gofal Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
  • Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Cefnogir yr egwyddorion hefyd gan yr ymgyrch meddyginiaethau ‘Cymryd Rhan a Gwybodus’, sy'n fenter aml-sefydliad sy'n hyrwyddo cefnogaeth meddyginiaethau diogel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae'n annog cynulleidfaoedd allweddol i gymryd camau penodol o ganllaw NICE ar Reoli Meddyginiaethau yn y gymuned a'i nod yw sicrhau bod pobl sy'n cyrchu cymorth meddyginiaethau yn teimlo eu bod yn cymryd rhan, yn wybodus ac mewn rheolaeth o’i meddyginiaethau.

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 21/10/2019