LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolenni

Llywodraeth Cymru

Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl  Cyfrol 7 – Canllawiau Statudol: diogelu plant rhag camfanteisio rhywiol

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Gam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant (18 o Fawrth), mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn cyhoeddi ‘Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl  Cyfrol 7 – Canllawiau Statudol: diogelu plant rhag camfanteisio rhywiol’

 

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi rannu gyda'ch rhwydweithiau.  

 

 

 

 

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-gweithio-gydan-gilydd-i-ddiogelu-pobl-cyfrol-7-diogelu-plant-rhag

 

Taliad bonws i staff y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol

 

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi taliad bonws o £735 i staff gofal cymdeithasol i gydnabod a gwobrwyo eu cyfraniad eithriadol yn ystod pandemig COVID-19.

 

Bydd mwy o fanylion am y cynllun, gan gynnwys pwy fydd yn derbyn y taliad a phryd y bydd yn cael ei dalu, ar gael trwy'r ddolen.

https://llyw.cymru/taliad-bonws-i-staff-y-gwasanaeth-iechyd-gofal-cymdeithasol

 

Datganiad Ysgrifenedig: Cyflenwad Brechlyn COVID-19

 

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyflenwad-brechlyn-covid-19

Datganiad Ysgrifenedig: Llythyr i’r rhai sy’n Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol – y cynllun ‘gwarchod’ gynt

 

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-llythyr-ir-rhai-syn-eithriadol-o-agored-i-niwed-yn-glinigol-y-cynllun

Cyhoeddi cynllun y gwasanaethau iechyd a gofal i adfer ar ôl y pandemig

 

Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cynllun, gyda chymorth £100m o gyllid yn y lle cyntaf, i helpu’r system iechyd a gofal yng Nghymru i adfer ar ôl pandemig COVID-19.

https://llyw.cymru/cyhoeddi-cynllun-y-gwasanaethau-iechyd-gofal-i-adfer-ar-ol-y-pandemig

Llywodraeth Cymru’n diweddaru Cynllun Rheoli’r Coronafeirws

 

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, gan nodi sut a phryd y bydd mwy o bobl a busnesau'n gallu ailddechrau eu gweithgareddau yn y ffordd fwyaf diogel sy’n bosibl.

https://llyw.cymru/llywodraeth-cymrun-diweddaru-cynllun-rheolir-coronafeirws

Sleidiau a setiau data o friff coronafeirws y Prif Weinidog: 19 Mawrth 2021

 

Gwybodaeth ystadegol o friff coronafeirws y Prif Weinidog ar 19 Mawrth 2021.

https://llyw.cymru/sleidiau-setiau-data-o-friff-coronafeirws-y-prif-weinidog-19-mawrth-2021

‘Mae gofalu yn fater i bawb’

 

‘Mae gofalu yn fater i bawb’ – dyna’r neges wrth i Gymru adnewyddu ei hymrwymiad i ofalwyr di-dâl heddiw [Dydd Mawrth 23 Mawrth] drwy gyhoeddi strategaeth a blaenoriaethau cenedlaethol, flwyddyn wedi’r cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud yng Nghymru.

https://llyw.cymru/mae-gofalu-yn-fater-i-bawb

Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol

‘Mae'n bryd i bawb mewn gofal cymdeithasol elwa ar waith teg’

 

Mae’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol

wedi cyhoeddi Datganiad Sefyllfa sy'n nodi ei flaenoriaethau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol a'i waith. Mae'r bartneriaeth gymdeithasol deiran yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a gweithwyr i fynd i'r afael â materion allweddol yn y sector.

Mae mwy o wybodaeth am waith y Fforwm a manylion Datganiad Positon ar gael:

 

Datganiad sefyllfa: Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol | LLYW.CYMRU

Cod Ymarfer I Wasanaethau Awtistiaeth yng Nghymru

Daeth yr ymgynghoriad ar y Cod a’r canllawiau ategol i ben ym mis Rhagfyr 2020. Disgwylir i'r Cod gael ei osod gerbron y Senedd ddydd Mercher (24 Mawrth) gyda'r bwriad o'i gyhoeddi'n ffurfiol yn ystod yr haf. Bydd y gweithredu'n cychwyn o 1 Medi 2021. Bydd darpariaeth lwyddiannus yn dibynnu ar berthnasoedd gwaith da o fewn ac ar draws Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mewn cefnogaeth mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles ac Iaith Gymraeg wedi cytuno i ddarparu £4,000 i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn 2021-22 i sefydlu seilwaith awtistiaeth.

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 24/03/2021