Mae ADSS Cymru yn darparu profiad a gwybodaeth arbenigol, o ran polisi ac arferion proffesiynol, yn delio â holl agweddau gwasanaethau cymdeithasol. Mae hefyd yn adnawdd gwybodaeth allweddol o fewn y sector gwasanaethau cymdeithasol, gan ymateb i’r galw am wybodaeth i lywio ar gymryd penderfyniadau strategol ac arferion gorau.

Mae ein cymdeithas yn cydnabod yr angen i drawsnewid ac yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau rhaglen o ddiwygio mawr, sy’n cynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Rydym hefyd yn ymroddedig i’r gwerthoedd a’r dyheadau a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Rydym ar hyn o bryd yn datblygu dull unedig i weithredu modelau newydd o ofal a chymorth, sy’n sicrhau bod gwasanaethau:

  • yn fwy ymatebol i anghenion a disgwyliadau dinasyddion a chymunedau
  • yn fwy integredig
  • yn fwy cyson â gwerthoedd staff rheng flaen
  • yn fwy cynaliadwy yn wyneb galw cynyddol a llai o adnoddau.

Mae deddfwriaeth newydd a’r modelau newydd o gymorth a gofal wedi cael eu gweithredu ar adeg pan fo cyfyngiadau ariannol nas gwelwyd o’r blaen, pan fo galw cynyddol a phan fo disgwyliadau’r cyhoedd yn newid. Rhaid i ni geisio sicrhau agwedd gwasanaethau cyhoeddus ystyrlon tuag at lesiant, darparu gwybodaeth a chyngor, gwasanaethau rhwystrol ac ymyrryd yn gynnar.

Er mwyn cefnogi’r ddeddfwriaeth newydd, mae ADSS Cymru wedi cytuno blaenoriaethau polisi sy’n gyson â’n hamcanion strategol ac yn helpu cyflawni ein gweledigaeth fel y disgrifir yn ein Cynllun Strategol, gyda mwy o wybodaeth am grwpiau penodol yn y ddewislen ar y dde.

Bydd canlyniadau gweithgareddau polisi ADSS Cymru yn sicrhau bod y gymdeithas mewn sefyllfa dda i ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol a strategol ar gyfer cyfeiriad gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol yng Nghymru.