LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolenni

Conffederasiwn GIG Cymru

Beth mae ymadael â’r UE yn ei olygu i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Cwestiynau cyffredin

Mae'r ddogfen cwestiynau cyffredin hon ar gyfer yr holl weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio yn y GIG, awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector annibynnol sy'n darparu gofal a chymorth yn uniongyrchol i bobl yng Nghymru, neu sydd mewn cyswllt uniongyrchol â phobl sy'n cael mynediad i wasanaethau gofal a chymorth. Mae'r ddogfen wedi cael ei hailfframio o fersiynau blaenorol i adlewyrchu bod Cytundeb Masnach a Chydweithio bellach wedi'i gytuno rhwng y DU a'r UE, a bod y berthynas newydd wedi dod i rym o 1 Ionawr 2021. Bydd y cwestiynau cyffredin yn parhau i gael eu diweddaru'n rheolaidd wrth i ragor o fanylion am weithredu'r agweddau gwahanol ar y Cytundeb Masnach a Chydweithio ddod ar gael.

Saesneg yn unig:
What leaving the EU means for health and social care in Wales - NHS Confederation

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nodyn cynghori diweddaraf: Defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) mewn lleoliadau gofal cymdeithasol (cartrefi gofal a gofal cartref) yng Nghymru

Adnodd wedi'i ddiweddaru - Mae'r adnodd hwn yn darparu arweiniad ar ddefnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn seiliedig ar ganllaw atal a rheoli heintiau'r DU (IP&C) ar gyfer rheoli COVID-19.

Saesneg yn unig - https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/information-for-health-and-social-care/adv-001-ppe-in-social-care-settings/

 

Arolygaeth Gofal Cymru

Gohebiaeth torfol gan AGC

Mae AGC wedi penderfynu na fydd yn anfon gohebiaeth dorfol at Reolwyr Cofrestredig mwyach. Y rheswm dros hyn yw am nad ydym yn cofrestru rheolwyr nac yn gofyn am eu cyfeiriadau e-bost mwyach. Caiff rheolwyr eu cofrestru gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Felly, ni fyddwn yn e-bostio Rheolwyr Cofrestredig mwyach pan fyddwn yn anfon gohebiaeth dorfol naill ai ar ein rhan ni neu ar ran Llywodraeth Cymru neu unrhyw gorff arall – dim ond Unigolion Cyfrifol/Personau Cofrestredig a/neu gyfeiriad e-bost y gwasanaeth.

Bydd hyn ond yn effeithio'n bennaf ar ohebiaeth dorfol, er enghraifft llythyrau a diweddariadau gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phandemig COVID-19 neu unrhyw newidiadau allweddol i'r gyfraith fel rhan o Brexit.

Ni fydd hyn yn effeithio ar negeseuon e-bost o ddydd i ddydd gan staff AGC. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd Rheolwyr Cofrestredig yn sylwi eu bod yn derbyn llai o ohebiaeth dorfol gan AGC.

Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y bobl gywir yn eich sefydliad, dylech sicrhau eich bod yn darparu cyfeiriad e-bost cyfredol ar gyfer y gwasanaeth yn eich cyfrif AGC Ar-lein. Gall Unigolion Cyfrifol neu Unigolion Cofrestredig wneud hyn drwy fewngofnodi i'ch cyfrif AGC Ar-lein a diweddaru eich proffil gwasanaeth.

Ni fyddwn yn anfon gohebiaeth dorfol at Reolwyr Cofrestredig mwyach | Arolygiaeth Gofal Cymru

Gofal Cymdeithasol Cymru

Arolwg ar ansawdd bywyd gwaith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac ymdopi wrth weithio yn ystod y pandemig COVID-19

Byddem yn annog i'r holl weithwyr gofal cymdeithasol i rannu eu profiadau drwy gwblhau arolwg byr a ddatblygwyd gan Brifysgol Ulster, gyda chefnogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru, fel y gallwn ddeall effaith y pandemig ar y gweithlu gofal cymdeithasol yn well, ac i sicrhau bod yr ymchwil yn cynnwys amrywiaeth o leisiau o bob rhan o Gymru.

Mae'r arolwg yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau ac mae'n gwbl gyfrinachol.

https://ulsterhealth.eu.qualtrics.com
/jfe/form/SV_bNP5BAcE7NLgbUF

Sesiwn Gwybodaeth y Rhaglen Recriwtio Sydyn

Cyflogwyr,

Er mwyn ymateb i’r heriau staffio sy’n wynebu cyflogwyr rydym yn peilota rhaglen recriwtio sydyn yn ardaloedd Need Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrdding a Sir Benfro, sy’n creu llwybr carlam i gael pobl i mewn i swyddi’n gyflym. Mae hwn yn cynnwys cwrs hyfforddi pedwar diwrnod sy’n rhoi cyflwyniad i weithio ym maes gofal cymdeithasol ac sy’n helpu pobl i fod yn barod i weithio.

Rydym  yn cynnal digwyddiad ar-lein ar 1 Chwefror, rhwng 10 – 11am i’ch hepu chi i ddarganfod mwy am y rhaglen ac am gyfleoedd i hysbysebu unrhyw swyddi gwag sydd gennych ym maes gofal cymdeithasol, am ddim. I gofrestru am y digwyddiad hwn, ewch at: https://www.eventbrite.com/e/employer-rapid-recruitment-webinargweminar-recriwtio-sydyn-i-gyflogwyr-tickets-136925627237

Caiff y linc i ymuno â’r digwyddiad ei ddanfon ar wahân

https://www.eventbrite.com/e/employer-rapid-recruitment-webinargweminar-recriwtio-sydyn-i-gyflogwyr-tickets-136925627237

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Arloesedd a Gwelliannau Ymchwil

 

Diwrnod Arloesi Accelerate Cymru

 

Digwyddiad digidol a gynhelir ar 25 Chwefror 2021

 

 Yn ystod mis Chwefror 2021, bydd Accelerate yn cynnal ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch Arloesedd yng Nghymru, a fydd yn arwain at ‘Ddiwrnod Arloesi Accelerate Cymru’ ar 25 Chwefror 2021.

Rydym yn estyn allan i fusnesau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymgyrch.

Mae'r ymgyrch yn ddathliad technoleg, iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi'i gynnal dros Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a sianeli cyfryngau cymdeithasol partneriaid cysylltiedig. 

Bydd y diwrnod arloesi yn tynnu sylw at straeon arloesi ac yn ysbrydoli eraill i droi syniadau’n realiti. 

Os oes diddordeb gennych, cysylltwch â'r tîm gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol.

Cofrestrwch eich diddordeb drwy ymateb i hyn erbyn 1 Chwefror fan bellaf

Comisiwn Bevan

Comisiwn Bevan – Gwneud Pethau'n Wahanol

 

Papurau a digwyddiadau trafod

Mae Comisiwn Bevan yn estyn allan i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, cleifion a'r cyhoedd ledled Cymru ar gyfer cyfres newydd o ddigwyddiadau trafod ar-lein o'r enw Gwneud Pethau'n Wahanol.

Bydd y digwyddiadau'n trafod y dewisiadau anodd sy'n wynebu'r sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddo ymateb i COVID-19 ac yn adfer ar ei ôl nawr ac yn y dyfodol.

Cynhelir tri digwyddiad trafodaeth banel ar-lein ym mis Chwefror a mis Mawrth (4 a 11 Chwefror a 4 March rhwng 3pm a 4.30pm) a byddant yn cynnwys pobl ledled Cymru, gan gynnwys y llefaryddion iechyd a gofal o'r prif bleidiau gwleidyddol.

Yn dilyn y digwyddiadau ymgysylltu, bydd y Comisiwn yn coladu, yn dadansoddi ac yn gwerthuso’r adborth ac yn llunio adroddiad cychwynnol ar ddechrau gwanwyn 2021.

Dyma'ch cyfle i gyfrannu at y drafodaeth bwysig hon a hoffem glywed eich cwestiynau a'ch barn, felly cadwch le yn ein digwyddiadau Gwneud Pethau'n Wahanol nawr.

Trosglwyddo gwasanaethau o leoliadau gofal acíwt i'r gymuned

 

Gofal dewisol a chanlyniadau COVID-19

 

Ein dewisiadau anodd ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru yn 2021 a'r tu hwnt

 

Llywodraeth Cymru

Dinasyddion yr UE - rydym ni am i chi aros yng Nghymru

Mae llai na 6 mis ar ôl i wneud cais am Gynllun Setliad yr UE.

Bydd gan ddinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir tan 30 Mehefin 2021 i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Dinasyddion yr UE - rydym ni am i chi aros yng Nghymru | LLYW.CYMRU

Lansio ap yng Nghymru i helpu i gefnogi pobl sydd â symptomau COVID hir

Heddiw (20 Ionawr), cafodd ap i helpu pobl i adfer eu hiechyd yn dilyn COVID ei lansio fel rhan o gymorth ehangach a gynigir i unigolion sy’n byw gydag effeithiau hirdymor wedi iddynt gael y coronafeirws.

https://llyw.cymru/lansio-ap-yng-nghymru-i-helpu-i-gefnogi-pobl-sydd-symptomau-covid-hir

 

Datganiad Ysgrifenedig: Effeithiau hirdymor COVID-19

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-effeithiau-hirdymor-covid-19

 

Cael brechlyn rhag COVID-19

Mwy o wybodaeth am y rhaglen brechu COVID-19 a sut bydd y brechlyn yn cael ei roi ar waith.

https://llyw.cymru/cael-brechlyn-rhag-covid-19

 

Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) a chanllawiau: gofal plant a reoleiddir

Canllawiau ar y safonau y mae'n rhaid i ddarparwyr gofal plant fodloni i edrych ar ôl plant.

https://llyw.cymru/safonau-gofynnol-cenedlaethol-nms-chanllawiau-gofal-plant-reoleiddir

 

Datganiad Ysgrifenedig: Cyflenwadau brechlynnau COVID-19 a’r defnydd ohonynt

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyflenwadau-brechlynnau-covid-19-ar-defnydd-ohonynt

 

Cynnydd o chwarter miliwn o bunnoedd i’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr

Mae swm ychwanegol o £250,000 wedi'i gyhoeddi i helpu gofalwyr di-dâl Cymru i ymdopi â phwysau ariannol pandemig y coronafeirws.

https://llyw.cymru/cynnydd-o-chwarter-miliwn-o-bunnoedd-ir-gronfa-gymorth-i-ofalwyr

 

Meddygon teulu’n dod ynghyd i frechu pobl dros 80 oed yn nes at y cartref

Mae meddygon teulu mewn cymunedau gwledig yn dod ynghyd i sefydlu canolfannau brechu cymunedol i helpu i frechu mwy o bobl yn nes at y cartref.

Meddygon teulu’n dod ynghyd i frechu pobl dros 80 oed yn nes at y cartref

Offeryn asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu

Mae offeryn asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu wedi cael ei ddiweddaru ynghylch y canlynol: Brechiad
       - er mwyn adlewyrchu'r canllawiau diweddaredig ar gyfer y rheiny sy'n   eithriadol o agored i niwed yn glinigol

Rydym yn argymell i unrhyw un nad yw wedi derbyn asesiad i gael un, neu os cafwyd newid yn eich amgylchiadau

https://llyw.cymru/adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu

 

Age Cymru

Gwneud i berthnasoedd gyfrif - Canllaw defnyddiol i deuluoedd, gofalwyr didâl a staff gofal sy’n cefnogi unigolyn i symud i fyw mewn cartref gofal

Mae Age Cymru wedi lansio eu canllaw newydd heddiw a ysgrifennwyd gan Reolwr Rhwydwaith Cartrefi Gofal, Suzy Webster mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

http://bit.ly/CareHomeGuide

 

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 27/01/2021