LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

 

Pwnc

Manylion

Dolenni

Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru

Mynnwch help. Cadwch yn ddiogel.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid fel rhan o’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin a sefydlwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael yma.

Fel rhan o’n gwaith, rydym wedi datblygu taflen wybodaeth newydd i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu’r rheini a allai fod mewn perygl.

Mae’r daflen yn rhoi gwybodaeth i helpu pobl i adnabod arwyddion cam-drin a’r gwahanol fathau o gam-drin, yr hyn y gall pobl ei wneud os ydyn nhw’n poeni am rywun arall, a lle mae cymorth a chefnogaeth ar gael.

Mae fersiwn electronig o’r daflen ynghlwm, a gobeithio y gallwch ei rannu â’ch rhwydweithiau / cysylltiadau a thrwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael.

Mae copïau caled o’r daflen hefyd ar gael. Os hoffech chi rai i’w rhoi i’r bobl hŷn rydych chi’n gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi, cysylltwch â swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn drwy anfon neges i – ask@olderpeoplewales.com – neu ffonio 03442 640 670.

Taflen Mynnwch help. Cadwch yn ddiogel.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Cyngor ar gyfer sefyllfaoedd staffio brys (cyd-gymorth)

 

Rydyn ni wedi datblygu tudalen we newydd gyda chyngor a phecyn cymorth y gellir ei lawrlwytho ar gyfer awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol annibynnol a thrydydd sector sy’n wynebu sefyllfaoedd staffio argyfwng tymor byr.

 

 

https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/cyngor-ar-gyfer-sefyllfaoedd-staffio-brys---cyd-gymorth

 

Lansio cerdyn cydnabod newydd i weithwyr gofal

 

Mae pob gweithiwr gofal yng Nghymru yn cael cynnig cerdyn cydnabod newydd sy’n eu hadnabod fel gweithiwr allweddol ac sy’n rhoi mynediad iddyn nhw i gynigion arbed arian. Y Cerdyn Gweithiwr Gofal yw’r fersiwn newydd o gerdyn tebyg a lansiwyd y llynedd i helpu i gefnogi gweithwyr gofal wrth iddyn nhw wynebu heriau enfawr yn sgil y pandemig.

 

Bydd y cerdyn newydd yn cynnig y buddion i weithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru, p’un a ydynt wedi’u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ai peidio. Bydd y cerdyn newydd yn ddigidol, fel bod gweithwyr gofal yn gallu ei gadw yn waled eu ffonau clyfar. Bydd y rhai sydd heb ffonau clyfar yn gallu derbyn yr un buddion os oes ganddynt gyfeiriad e-bost a mynediad i’r rhyngrwyd.

 

 

https://gofalcymdeithasol.cymru/straeon-newyddion/lansio-cerdyn-cydnabod-newydd-i-bob-gweithiwr-gofal-yng-nghymru

 

Arolygaeth Gofal Cymru

Cefnogi pobl mewn cartrefi gofal i fynd allan i bleidleisio

Mae'n bwysig bod pobl yn cael eu cefnogi i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio pe byddent yn dymuno gwneud hynny, a hoffai AGC atgoffa darparwyr ei bod yn iawn i bobl sy'n byw mewn cartref gofal fynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio ar Fai 6. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, darllenwch ganllaw ymwelwyr Llywodraeth Cymru sy'n cynnwys cyngor ar gefnogi pobl i fynd allan.

Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr | LLYW.CYMRU

Llywodraeth Cymru

Llacio cyfyngiadau ymhellach i gefnogi ymweliadau â chartrefi gofal

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi'u diweddaru i alluogi pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal i gael dau ymwelydd dynodedig dan do o ddydd Llun 26 Ebrill.

 

Bydd ymweliadau gan blant hefyd yn bosibl ac nid oes angen ystyried plant ifanc o dan ddwy flwydd oed at ddibenion ymweliadau dynodedig.

 

Mae'r cyfyngiad ar nifer yr ymwelwyr yn yr awyr agored hefyd wedi'i dynnu. Mae cartrefi gofal wedi cael cyngor i reoli hyn yn ôl eu sefyllfa leol, ar sail asesiad risg.

Mae'r canllawiau diweddaraf ar ymweld â chartrefi gofal ar gael yn: https://llyw.cymru/ymweliadau-chartrefi-gofal-canllawiau-i-ddarparwyr-html#section-68931

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau a chwestiynau cyffredin ar asesiadau risg ar gyfer ymweliadau dan do, sydd ar gael yn: https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/information-for-health-and-social-care/

Problemau talu eich rhent yn ystod y pandemig coronafeirws

 

Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth talu eich rhent i'ch landlord, cyngor neu gymdeithas dai, a chymorth i'w dalu.

https://llyw.cymru/problemau-talu-eich-rhent-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws

Y trydydd brechlyn Covid-19 yn cyrraedd Cymru

 

Mae’r trydydd brechlyn Covid-19 yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o heddiw ymlaen, a chleifion yn Sir Gaerfyrddin fydd y rhai cyntaf yn y Deyrnas Unedig i'w dderbyn.

https://llyw.cymru/y-trydydd-brechlyn-covid-19-yn-cyrraedd-cymru

Addysg uwch: coronafeirws

 

Gwybodaeth am addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.

https://llyw.cymru/addysg-uwch-coronafeirws-canllaw

Olrhain cysylltiadau: os oes cadarnhad eich bod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â’r coronafeirws

 

Esbonio sut mae’r system olrhain cysylltiadau’n gweithio os ydych wedi eich cadarnhau fel cyswllt person sydd wedi cael prawf positif am y coronofeirws.

https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau-os-oes-cadarnhad-eich-bod-wedi-dod-i-gysylltiad-rhywun-sydd-ar-coronafeirws

Olrhain cysylltiadau: os ydych chi wedi cael prawf positif

 

Esbonio sut mae’r system olrhain cysylltiadau’n gweithio os ydych wedi cael prawf positif am y coronofeirws.

https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau-os-ydych-chi-wedi-cael-prawf-positif

Cael brechlyn COVID-19 os ydych yn credu eich bod wedi colli allan

 

Beth i'w wneud os ydych i fod i gael eich brechlyn COVID-19 a heb gael neb yn cysylltu â chi.

https://llyw.cymru/cael-brechlyn-covid-19-os-ydych-yn-credu-eich-bod-wedi-colli-allan

Lletygarwch awyr agored yn cael caniatâd i ailagor a’r rheolau ar gymysgu yn yr awyr agored yn cael eu llacio yng Nghymru

 

Heddiw, wrth i’r achosion o heintiadau COVID-19 newydd barhau i ostwng, mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cadarnhau bydd chwe unigolyn yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored yng Nghymru o ddydd Sadwrn 24 Ebrill a bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill.

https://llyw.cymru/lletygarwch-awyr-agored-yn-cael-caniatad-i-ailagor-ar-rheolau-ar-gymysgu-yn-yr-awyr-agored-yn-cael

Canllawiau byw â chymorth: coronafeirws

 

Sut gall pobl sy’n byw â chymorth weld eu teulu a’u ffrindiau a chadw’n saff gyda’u gweithwyr cymorth a gofal

https://llyw.cymru/canllawiau-byw-chymorth-coronafeirws

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Gyflawni’r Strategaeth Frechu COVID-19

 

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddariad-ar-gyflawnir-strategaeth-frechu-covid-19

Deddfwriaeth coronafeirws: teithio rhyngwladol

 

Rheoliadau i roi cyfyngiadau a gofynion yn dilyn teithio rhyngwladol.

https://llyw.cymru/deddfwriaeth-coronafeirws-teithio-rhyngwladol

Rheolau ffiniau ar gyfer pobl sy’n teithio i ac o Gymru: coronafeirws (COVID-19)

 

Esbonio beth sydd angen i chi wneud os ydych yn teithio i neu o Gymru.

https://llyw.cymru/teithwyr-sydd-wedi-eu-heithrio-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19

Gwirfoddolwyr a phobl sy’n methu gweithio gartref yn gallu archebu cit hunan-brawf llif unffordd ar-lein

 

O ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen, bydd gwirfoddolwyr a phobl sy’n methu gweithio gartref yn gallu archebu cit hunan-brawf llif unffordd a fydd yn cael ei ddanfon yn syth i’w cartref.

https://llyw.cymru/gwirfoddolwyr-phobl-syn-methu-gweithio-gartref-yn-gallu-archebu-cit-hunan-brawf-llif-unffordd-ar

Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau

 

Sut i gael profion llif unffordd COVID-19 rheolaidd er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu.

https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau

Adroddiad sefyllfaol COVID-19: 22 Ebrill 2021

 

Adroddiad sefyllfaol wedi ei baratoi gan Gell Wybodaeth COVID-19 a’r Grŵp Ymgynghorol Diogelu Iechyd ar 22 Ebrill 2021.

https://llyw.cymru/adroddiad-sefyllfaol-covid-19-22-ebrill-2021

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 29/04/2021